Gŵyl Ein Llais yn y Byd

Yr Ŵyl

Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau, paneli trafod a pherfformiadau i ddathlu’r Gymraeg fel iaith hyfyw ymhlith teulu ieithoedd y byd fel rhan o Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019.

Bydd y themâu trafod yn cynnwys y canlynol, gan amlygu profiad o Gymru a gwledydd eraill:

  • dysgu a defnyddio iaith
  • iaith, llên, y celfyddydau a’r cyfryngau
  • polisi a chynllunio iaith

Anelir y digwyddiad at ymarferwyr o sawl maes – o Gymru a thu hwnt.

Caiff y Gymraeg a’r Saesneg ill dwy eu defnyddio yn yr Ŵyl i wahanol raddau.  Os nad ydych yn medru’r Gymraeg a’r Saesneg, gofynnwn i chi nodi hyn wrth gofrestru er mwyn hwyluso trefniadau cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gwahanol sesiynau.

 

Lle a Phryd

Yr Hen Goleg, Aberystwyth | 28-29 Tachwedd, 2019

 

Rhaglen yr Ŵyl

Rhaglen a Manylion Sesiynau - Gwyl Ein Llais yn y Byd

 

Cofrestru

Does dim modd cofrestru mwyach. Methu ymuno yn yr hwyl?  Byddwn yn darparu ffrwd byw o’r digwyddiad ar ein sianel Facebook: https://en-gb.facebook.com/Prif.Aberystwyth/

Llety

Mae llety gwely a brecwast ar gael ar Gampws Penglais (pris ychwanegol).  I arbed ystafell, cwbwlhewch a dychwelwch y ffurflen i constaff@aber.ac.uk

Byncws - Ffurflen Archebu Llety

Gwybodaeth am y Byncws

 

Cwestiynau Pellach?

Cysylltwch gyda ni - bydstaff@aber.ac.uk

 

Gyda diolch i'n partneriaid a chyfranwyr ychwanegol: