Cyfrifo Lwfans Milltiroedd

Mae’r Swyddfa Gyllid wedi cael rhai ymholiadau ynglŷn â’r modd y dylai milltiroedd a deithiwyd gael eu cyfrifo pan ddefnyddir cerbyd preifat i wneud siwrneiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

Yr egwyddor sylfaenol y dylid ei ddefnyddio yma yw na ddylai aelod o’r staff elwa neu golli dim drwy ddefnyddio’i gerbyd i ymgymryd â busnes swyddogol. Felly, os yw gweithiwr yn teithio milltiroedd ychwanegol â’i waith, dylai gael ei ddigolledu am hynny. Fodd bynnag, os yw’n teithio llai nag y byddai fel arfer, ni ddylai allu codi tâl am y milltiroedd hynny.

Mae’r cysyniad o “weithle arferol” yn bwysig yn hyn o beth. I rai aelodau o’r staff, hwn yw eu cyfeiriad cartref ond i’r mwyafrif llethol, eu gweithle arferol yw Aberystwyth.

Cynigir y dylai’r rheolau canlynol gael eu hychwanegu at y Gweithdrefnau Ariannol.

Teithio mewn cerbyd preifat ar fusnes swyddogol - Cyfrifo'r milltiroedd y gellir eu hawlio
  • Dim ond am y daith fyrraf bosib y bydd y milltiroedd yn cael eu talu, ac mae hyn yn berthnasol i bob siwrnai.

Teithio o'r gweithle arferol i fan/fannau sy'n bell o'r gweithle arferol

  • Cewch eich ad-dalu'n llawn am y milltiroedd a deithiwyd ar y cyfraddau arferol.

Teithio o'r cartref i fan/fannau sy'n wahanol i'r gweithle arferol a dychwelyd adref

  • Mae'r staff yn cael eu talu ar y cyfraddau arferol am y milltiroedd y maent yn eu teithio namyn y pellter y maent yn ei deithio fel arfer i'r gweithle arferol ac yn ôl adref.

Teithio adref o fan/fannau sy'n wahanol i'r gweithle arferol a dychwelyd i'r gweithle arferol (neu i'r gwrthwyneb)

  • Mae'r staff yn cael eu talu ar y cyfraddau arferol am y milltiroedd y maent yn eu teithio namyn y pellter y maent yn ei deithio fel arfer i'r gweithle arferol.

Amserlen Cyflwyno Hawliadau

  • Dylid cyflwyno hawliadau o fewn 3 mis o gwblhau'r siwrnai. Ni chaniateir i neb gyflwyno hawliadau ar ôl y cyfnod hwn.

CAIS AM GOSTAU TEITHIO A CHYNHALIAETH