Cwestiynau Cyffredin eraill

Cyflenwyr

Rwyf wedi newid fy manylion banc, fy nghyfeiriad neu enw fy nghwmni, pwy ddylwn i ei hysbysu?

E-bostiwch bylstaff@aber.ac.uk gyda'ch manylion newydd, ac fe fyddwn yn diweddaru ein cofnodion yn unol â hynny, ar ôl eu gwirio.

Derbyniais daliad nad oedd i fod i mi. Sut ydw i’n dychwelyd yr arian?

Anfonwch e-bost i paystaff@aber.ac.uk a byddwn yn rhoi manylion banc a chyfarwyddiadau i chi ynghylch beth i'w roi fel cyfeirnod.

Sut mae gwneud ymholiad am daliad anfoneb sy'n dyledus?

Am unrhyw ymholiadau’n ymwneud â thaliadau, anfonwch e-bost i paystaff@aber.ac.uk , gan nodi enw eich cwmni a rhif yr anfoneb. Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad drwy e-bost cyn gynted ag y gallwn.

Sut mae anfon anfoneb i’w thalu?

Anfonwch unrhyw anfonebau i paystaff@aber.ac.uk .  Sicrhewch bod rhif yr Archeb Brynu berthnasol wedi'i nodi ar bob anfoneb. Bydd methu â nodi rhif archeb brynu yn arwain at oedi wrth dalu’r anfoneb.

Cwsmeriaid

Sut ydw i'n talu anfoneb rwyf wedi ei derbyn?

I dalu gyda cherdyn debyd/credyd am unrhyw anfoneb sydd gennych heb ei thalu, ewch i https://epayments.aber.ac.uk/commercialinvoice/

 

Mae gen i ymholiad ynglŷn ag anfoneb rwyf wedi’i derbyn?

E-bostiwch unrhyw ymholiadau sydd gennych i fees@aber.ac.uk gan ddyfynnu eich rhif cwsmer a rhif yr anfoneb.