Miss Evan Smith

Miss Evan Smith

Cynorthwyydd Gweinyddol Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Evan ag YBA ym mis Awst 2023. Cyn hynny, bu’n gweithio yn Adran Gyllid Prifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio ar gysoni banc, uwchlwytho cyfnodolion cyllid, a helpu aelodau staff gydag ymholiadau ynghylch y systemau cyllid a ddefnyddir.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn ystod cyfnod Evan yn gweithio ym maes Cyllid, bu’n hyfforddi gyda thimau gwahanol o fewn yr adran. Gweithiodd hefyd i gasglu dyledion myfyrwyr, gan helpu'r myfyrwyr gydag unrhyw gwestiynau oedd ganddynt pan oedd angen.

Addysg a phrofiad gwaith

BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Bangor - Dosbarth Cyntaf (2022).

MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol o Brifysgol Bangor - Rhagoriaeth (2023).

Bu'n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel glanhawraig, yna o fewn yr adran gyllid.

Profiad a gwybodaeth

Caniataodd cyfnod Evan fel myfyriwr yn y brifysgol iddi ddatblygu sgiliau craidd cryf, gan gynnwys rheoli amser, trefniadaeth a hunan-gymhelliant. Roedd y sgiliau hyn yn hollbwysig yn ystod ei gradd meistr yn arbennig, gan fod y rhan fwyaf o’i gwaith yn hunan-gychwynnol.

Rhoddodd gweithio o fewn yr adran gyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth gyfle iddi wella’r sgiliau hyn a’u cymhwyso i amgylchedd gwaith proffesiynol. Gwellodd ar ei sgiliau cyfathrebu, gan fod llawer o'i thasgau'n cynnwys helpu staff a myfyrwyr gydag unrhyw ymholiadau oedd ganddynt. Roedd hi hefyd yn gallu gweithio ar sgiliau gweinyddol, gan gynnwys cymryd cofnodion, yn ogystal â threfnu ac ymateb i e-byst.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Fel Cynorthwyydd Derbynfa, Evan yw’r pwynt cyswllt cyntaf yn swyddfa YBA. Mae'n rhoi cymorth i'r adran ar draws ystod o swyddogaethau; ymateb i ymholiadau cyffredinol, cefnogi ymweliadau allanol â'n hadran, trefnu digwyddiadau, rheoli dyddiaduron ac ystafell gyfarfod, prosesu treuliau, a chynnal a monitro cyflenwadau swyddfa.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Evan yn mwynhau dod i adnabod yr holl bobl a’r prosiectau gwahanol sy’n ymwneud ag YBA, a gallu helpu gyda threfnu’r cyfan o ddydd i ddydd.