Aber Plws

Mae Aber+ yn fenter ar y cyd rhwng Gwasanaethau gyrfaoedd a hygyrchedd. Dylinwyd y cynllun er mwyn galluogi myfyrwyr sydd gydag anghydfod neu anabledd dysgu ddefnyddio holl amrediad  gwybodaeth a chefnogaeth a ddarparwyd gan Wasanaethau Gyrfaoedd gan eu paratoi i drawsnewid o addysg uwch i farchnad llafur graddedig.

Amcan allweddol y cynllun yw bod gan fyfyrwyr dealltwriaeth gynyddol o beth ydi cyflogadwyedd a'u bod yn fwy cymwys gyda sgiliau rheolaeth mewn gyrfa er mwyn cyflawni eu gyrfaoedd.

Trwy gydol y flwyddyn academaidd, trefnir sawl digwyddiad megis gweithdai sy’n rhoi sylw ar adnabod sgiliau, datgelu, hunan-farchnata, CV a cheisiadau yn ogystal â darganfod profiad gwaith. Trefnir sesiynau gyrfaoedd galw heibio gan Gymorth Myfyrwyr gan roi mynediad i gyngor mewn amgylchedd mae myfyrwyr yn gyfforddus ynddo.  Y mae’r cynllun yn cydweithio’n agos gyda chynllun Go Wales er mwyn cefnogi myfyrwyr i ennill cyfleoedd profiad gwaith pwrpasol.

Datblygwyd wefan cydraddoldeb ac amrywioldeb gan Wasanaethau Gyrfaoedd: https://www.aber.ac.uk/en/careers/equality-and-diversity/ sy’n cynnwys dolennau at fideos a gwybodaeth sy’n trafod pynciau megis dod o hyd i gyflogwyr a datgeliad cadarhaniol.