Rhwydwaith Anabledd a Lles

Mae’r Rhwydwaith Anabledd a Lles yn agored i bob aelod o staff ac mae’n gyfle i staff sydd â chyflyrau neu anawsterau iechyd (boed yn gorfforol neu’n feddyliol) ddod ynghyd mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol i gael sgyrsiau a thrafodaethau am les yn y gweithle a’ch bywyd yn gyffredinol. Ein gobaith yw y bydd aelodau o’r rhwydwaith yn cael budd o rannu profiadau ag eraill a chael cymorth, barn a chyfeillgarwch pobl sydd efallai wedi wynebu’r un heriau.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Kim, Suzy, neu Ruth (Swyddogion Cydraddoldeb).