Digwyddiad Cydraddoldeb Hiliol

Fel y soniwyd yn y bwletin wythnosol yr wythnos ddiwethaf, ac fel rhan o'r Wythnos Cydraddoldeb Hiliol fis nesaf, byddwn yn cynnal digwyddiad arbennig ar ddydd Mercher 8 Chwefror. Bydd 'Cydraddoldeb Hiliol – O bwys i ni' yn cynnwys nifer o sesiynau gwahanol a gynhelir rhwng 14:00-16:30 yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Fel Prifysgol rydym wedi ymroi i fod yn wirioneddol gynhwysol ac yn weithredol wrth-hiliol, a hynny o ran arfer a bwriad. Rydym yn dechrau ar y gwaith o weithredu ein Cynllun Gweithredu ar Hil ac yn gweithio tuag at achrediad gyda'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.

Mewngofnodi