Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ar draws y byd. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi’r galw am gyflymu ein camau tuag at sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

#IWD2023 #EmbraceEquity

Rydym yn falch iawn o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth. Mae sawl digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos.

  • “In the footsteps of Kathleen Carpenter” - Athro Catherine Duigan (Arthro Er Anrhyedd – Gwyddor Amgylcheddol) - rhan o gyfres o seminarau IBERS/Gwyddorau Naturiol
    Dydd Llun 6 Mawrth, 4yp, Edward Llwyd 1.16 ac ar Teams

    Roedd Dr Kathleen Carpenter (1891-1970) ecolegydd dŵr croyw arloesol. Yn dilyn ymchwil arloesol MSc a PhD ar ddŵr croyw Dr Carpenter ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ati i ysgrifennu’r gwerslyfr Saesneg cyntaf ar ecoleg dŵr croyw - Life in Inland Waters (1928). Mae ei gwaith ac ysgrifau yn ysbrydoli, gan gyfuno sylw at fanylder gwyddonol ac ymroddiad, gyda chariad amlwg iawn tuag at amgylcheddau dŵr croyw a'u biota.

  • Tudalen drafod Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil
    Rydym yn eich gwahodd i ddathlu’r diwrnod drwy gyflwyno eich hun fel ymchwilydd ar ein tudalen drafod Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil. Helpwch ni i daflu goleuni ar yr amrywiaeth anhygoel o fenywod ym maes ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw copïo a postio’r frawddeg isod gan llenwi’r bylchau:
    Helo. Fy enw i yw ___ o adran ___.
    Fy niddordebau ymchwil yw ____ .

    I ddod o hyd i'n tudalen drafod:
        1. Ymunwch â Fforwm Ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Dyma'r ddolen.
        2. Dewiswch ‘Creu neu ymuno a tîm’ ac ‘Ymuno â thîm gyda chod’ gan ddefnyddio’r cod canlynol:
                dpze0tc
        3. Cliciwch ar AURF_Women In Research Network yn y ddewislen ar y chwith
      
    Ynglŷn â'r Rhwydwaith Menywod ym maes Ymchwil: 
    Mae Rhwydwaith Menywod ym maes Ymchwil yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod sut y gellid gwella cydraddoldeb rhywiol ym maes ymchwil, i rannu syniadau ac i gefnogi menywod sy'n ymchwilwyr. 

  • Mae gan Ganolfan y Celfyddydau sawl arddangosfa gan Artistiaid Benywaidd Cymreig ar agor i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd.

    Oriel 1: Mary Lloyd Jones (2 Chwefror - 31 Mawrth)

    Taith Tywys yn yr oriel bob Dydd Iau 1-1.30pm a siawns i gwrdd a’r artist Mary Lloyd Jones. Am Ddim - croeso i bawb a chewch tocyn am ostyngiad o 10% yn ein caffi.

    Arddangosfa: Ruth Koffer - Drawing a Story (2 Chwefror - 31 Mawrth)

    Arddangosfa: In their Element - Tri Seramegydd Cymreig a ysbrydolwyd gan rymoedd natur - Beverley Bell Hughes, Kim Colebrook, Carine Van Gestel (14 Ionawr - 26 Mawrth)

  • Bord Gron Gwleidyddiaeth Ryngwladol - i'w gadarnhau

  • Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched - digwyddiad cymunedol
    8fed Mawrth, 11am-4pm
    Bandstand, Aberystwyth
    Croeso i bawb. Stondinau, gwobrau a hamperi.