Amrywiaeth yn y Gweithle
Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu hyfforddiant gorfodol i’w pob staff ar gyfer:
- ymgyfarwyddo â deddfwriaeth cydraddoldeb
- meithrin dealltwriaeth o’r materion ehangach sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb/amrywiaeth
- cynyddu ymwybyddiaeth am eu cyfrifoldebau a’u hawliau fel aelodau staff
Beth sy’n digwydd i’ch data?
Caiff eich data personol ei gadw’n ddiogel, wedi’i ddiogelu rhag unrhyw brosesu anghyfreithlon neu anawdurdodedig ac yn erbyn difrod neu golled ddamweiniol. Mae gan ddarparwr y system fesurau priodol i liniaru unrhyw risgiau yn ôl gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd bydd defnyddwyr ein gwasanaeth hefyd yn cael hawliau newydd megis yr hawl i gael eu hanghofio pan na fydd angen eu data bellach neu’r hawl i gael mynediad i’r data a gedwir amdanynt ar y system.
Caiff y data ei gasglu, ei brosesu a’i storio yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016/679.
Mewngofnodi
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA
Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r tiwtorial cysylltwch â Dylan Jones (divstaff@aber.ac.uk).