Y Croeso Mawr a’r Wythnos Ymgartrefu
Croeso i flwyddyn academaidd 2021/22. Rydym wedi creu'r dudalen hon i'ch helpu i lywio'ch wythnos gyntaf gyda ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. P'un a ydych chi'n dychwelyd i astudio gyda ni neu'n fyfyriwr newydd sy'n ymuno â'n hadran, rydyn ni'n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ystod y Croeso Mawr a'r Wythnos Ymgatrefu.
Gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig Newydd
Diolch am ymweld â'r dudalen hon. Bydd y Rhaglen Wythnos Ymgartrefu (27 Medi 2021 – 1 Hydref 2021) ar gael yn fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am yr Wythnos Ymgartrefu, anfonwch e-bost add-ed@aber.ac.uk
Gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig newydd
Amlinelliad o Wythnos Groeso yr Ysgol Addysg 2021-22
Dyddiadau allweddol: Rhag-gofrestru: 20-27 Medi 2021; Yr Wythnos Groeso: 27 Medi - 1 Hydref 2021; y dysgu'n dechrau ddydd Llun 4 Hydref 2021
Dyddiad (Medi) |
Amser |
Digwyddiad |
Amlinelliad |
Gorfodol/ dewisol |
Lleoliad |
Cyswllt |
Dydd Llun 27 |
10-11 |
Sgwrs 'Croeso i'r Adran'- Addysg [X302]
|
Sgwrs awr o hyd yw hon ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r cynllun gradd Addysg [X302 ]. Cewch eich croesawu i'r adran a chewch wybodaeth allweddol ac angenrheidiol ar gyfer yr wythnos groeso a'ch cyfnod yn astudio yma. |
Gorfodol
Dim ond y sgwrs ar gyfer eich cynllun gradd chi y dylech ei mynychu. |
|
|
|
1pm- 2pm |
Sgwrs 'Croeso i'r Adran'- Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar [X322] |
Sgwrs awr o hyd yw hon ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r cynllun gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar [X322]. Cewch eich croesawu i'r adran a chewch wybodaeth allweddol ac angenrheidiol ar gyfer yr wythnos groeso a'ch cyfnod yn astudio yma.
|
Gorfodol
Dim ond y sgwrs ar gyfer eich cynllun gradd chi y dylech ei mynychu. |
HO C4 |
|
|
2-3pm |
Sgwrs 'Croeso i'r Adran'- cynllun gradd Astudiaethau Plentyndod [X320]. |
Sgwrs awr o hyd yw hon ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r cynllun gradd Astudiaethau Plentyndod [X320]. Cewch eich croesawu i'r adran a chewch wybodaeth allweddol ac angenrheidiol ar gyfer yr wythnos groeso a'ch cyfnod yn astudio yma. |
Gorfodol
Dim ond y sgwrs ar gyfer eich cynllun gradd chi y dylech ei mynychu. |
HO A12 |
|
|
3-4pm |
Sgwrs 'Croeso i'r Adran'- Addysg ynghyd â phwnc arall [mae'n bosibl y byddwch yn astudio'r pwnc fel gradd anrhydedd cyfun, prif bwnc neu is-bwnc]. |
Sgwrs awr o hyd yw hon ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Addysg ynghyd â phwnc arall [mae'n bosibl y byddwch yn astudio'r pwnc fel gradd anrhydedd cyfun, prif bwnc neu is-bwnc]. Cewch eich croesawu i'r adran a chewch wybodaeth allweddol ac angenrheidiol ar gyfer yr wythnos groeso a'ch cyfnod yn astudio yma. |
Gorfodol
Dim ond y sgwrs ar gyfer eich cynllun gradd chi y dylech ei mynychu. |
|
|
|
4-5pm |
Sesiwn galw heibio ar gyfer cymorth cyffredinol [ar-lein] |
Cyfle i siarad ag aelod o staff yr adran. Gallwch fanteisio ar y sesiwn galw heibio i gael cymorth unrhyw bryd rhwng 4 a 5pm
|
Dewisol |
Ar-lein |
|
Dydd Mawrth 28 |
Drwy'r dydd 9-4 |
Cofrestru [ar-lein]
|
Bydd hyn yn eich galluogi i gwblhau'r broses gofrestru ar gyfer eich modiwlau am y flwyddyn academaidd hon.
Gweler yr amlinelliad yn eich pecyn croeso am ragor o fanylion. Ceir amryw o ddewisiadau ar gyfer gwneud hyn. |
Gorfodol |
Ar-lein
|
MS Teams. |
11am- 12pm |
Sesiwn Cyflwyniad i'r Gymraeg
|
Sesiwn er mwyn dysgu rhywfaint o Gymraeg a chwrdd â rhai o fyfyrwyr eraill yr adran. (Sesiwn ar gyfer uchafswm o 30 myfyriwr fydd hon.) |
Dewisol |
HO C22 |
Wyneb yn wyneb. |
|
|
2-3pm |
Cwrdd â'ch tywysydd [ar-lein] |
Cwrdd â'ch Tywysydd yn yr Adran Addysg.
Bydd eich Tywysydd yn fyfyriwr 2il neu 3edd flwyddyn yn yr adran. Gallant ateb amrywiaeth o gwestiynau am astudio a byw ym Mhrifysgol Aberystwyth. |
Dewisol |
Ar-lein |
MS Teams
Bydd eich tywysydd yn trefnu cyfarfod â chi. |
Dydd Mercher 29 |
10am-11am |
Sesiwn Cyflwyniad i'r Gymraeg
|
Sesiwn er mwyn dysgu rhywfaint o Gymraeg a chwrdd â rhai o fyfyrwyr eraill yr adran. (Sesiwn ar gyfer uchafswm o 30 myfyriwr fydd hon.) |
Dewisol |
HO C22 |
Wyneb yn wyneb |
11am-1pm |
Sgwrs am Sgiliau Gwybodaeth a Sgiliau Academaidd
[ar-lein] |
Bydd y sgwrs hon yn rhoi gwybodaeth bwysig ichi am astudio er mwyn eich cynorthwyo i ddechrau ar eich taith academaidd yma. Mae'n bwysig eich bod yn bresennol, a bydd yn gyfle hefyd ichi gwrdd â rhagor o staff a myfyrwyr yr adran. |
Gorfodol |
Ar-lein |
MS Teams
Defnyddiwch y gwahoddiad calendr er mwyn ymuno â'r sesiwn hon. Anfonir y gwahoddiad atoch cyn yr Wythnos Groeso. |
|
3-4pm |
Sesiwn galw heibio ar gyfer cymorth cyffredinol
[ar-lein] |
Cyfle i siarad ag aelod o staff yr adran.
Gallwch fanteisio ar y sesiwn galw heibio i gael cymorth unrhyw bryd rhwng 3pm a 4pm.
|
Dewisol |
Ar-lein |
MS Teams
Defnyddiwch y gwahoddiad calendr er mwyn ymuno â'r sesiwn hon. Anfonir y gwahoddiad atoch cyn yr Wythnos Groeso |
|
Dydd Iau 30 |
Rhwng 9 a 3
|
Cwrdd â'ch tiwtor personol
Sesiwn awr o hyd
Gweler yr amlinelliad yn eich pecyn croeso am ragor o fanylion. Bydd amser a lleoliad y sesiwn yn dibynnu ar bwy yw eich tiwtor personol. |
Dewch i gwrdd â'ch tiwtor personol. Byddant yn bwynt cyswllt pwysig ichi yn yr adran, felly mae'n beth da eu cwrdd yn gynnar a chael cyfle i ddod i'w hadnabod. Gan mai sesiwn grŵp fydd hon, bydd yn gyfle hefyd i gwrdd â myfyrwyr eraill yn yr adran.
Bydd hefyd yn gyfle arall i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. |
Gorfodol |
Ystafell i'w chadarnhau gan ddibynnu ar ba grŵp tiwtor personol yr ydych ynddo |
Wyneb yn wyneb |
3pm-4pm |
Sesiwn galw heibio ar gyfer cymorth cyffredinol |
Cyfle i siarad ag aelod o staff yr adran.
Gallwch fanteisio ar y sesiwn galw heibio i gael cymorth unrhyw bryd rhwng 3pm a 4pm.
|
Dewisol |
Ar-lein |
MS Teams
Defnyddiwch y gwahoddiad calendr er mwyn ymuno â'r sesiwn hon. Anfonir y gwahoddiad atoch cyn yr Wythnos Groeso |
|
Dydd Gwener 1 Hydref |
1-2pm |
Sesiwn galw heibio ar gyfer cymorth cyffredinol |
Cyfle i siarad ag aelod o staff yr adran.
Gallwch fanteisio ar y sesiwn galw heibio i gael cymorth unrhyw bryd rhwng 1pm a 2pm |
Dewisol |
Ar-lein |
MS Teams
Defnyddiwch y gwahoddiad calendr er mwyn ymuno â'r sesiwn hon. Anfonir y gwahoddiad atoch cyn yr Wythnos Groeso. |
Gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n dychwelyd
Diolch am ymweld â'r dudalen hon. Bydd y Rhaglen Wythnos Ymgartrefu (27 Medi 2021 – 1 Hydref 2021) ar gael yn fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am yr Wythnos Ymgartrefu, anfonwch e-bost add-ed@aber.ac.uk.