ACF 2017

09 Awst 2017

Mae’r pwnc Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ail yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn ôl yr israddedigion blwyddyn olaf sydd wedi bod yn astudio’r pwnc.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd ddydd Mercher 9 Awst, rhoddodd y myfyrwyr raddfa boddhad cyffredinol o 98% i’r pwnc Addysg o'i gymharu â ffigwr cyfartalog y DU o 84%.

Yn ogystal cafodd un o gynlluniau gradd blaenllaw yr Ysgol Addysg - Astudiaethau Plentyndod – raddfa boddhad myfyrwyr o 98%.

Pan ofynnwyd iddynt am yr addysgu ar eu cwrs, dywedodd 93% o fyfyrwyr wrth yr arolwg blynyddol eu bod yn fodlon ar y cyfan.

Dywedodd Dr Andrew James Davies, Pennaeth Dros Dro'r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau hyn - mae dod yn ail yn y DU am foddhad myfyrwyr yn gyffredinol ym maes Addysg, gyda 98%, yn wych. Fel Ysgol, rydym wedi adeiladu perthynas agos ac adeiladol gyda'n myfyrwyr, ac rydym wedi gweithio'n galed i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a thrawsffurfiol. Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi dweud wrthym eu bod yn cydnabod hyn, ac rydym yn ei werthfawrogi'n fawr iawn.”

Mae canlyniadau ardderchog yr Ysgol Addysg yn rhan o stori lwyddiant ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn ôl ACF 2017.

Mae'r arolwg yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth a darganfod pam fod ein myfyrwyr mor fodlon â'u cyrsiau, nid yw'n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18 neu dewch draw i ymweld â ni yn ystod un o'n Diwrnodau Agored.

 Cyrsiau'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes drwy Clirio 
• Diwrnodau Agored (ychwanegu gwefan)
• Stori Newyddion: Stori Llwyddiant ACF Prifysgol Aberystwyth 

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 100% o raddedigion Addysg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2016.

• Ffigurau Cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU a chyfwelir mwy 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu a llais myfyrwyr.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.