Y Partneriaid

Dewch i adnabod yr ysgolion sy'n cydweithio â ni a lle byddwch yn hyfforddi o bosib.

Cliciwch ar un o’r ysgolion neu golegau isod i ganfod mwy. 

Ysgol Bro Gwaun

Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol uwchradd 11-16 cyfrwng Saesneg, gyda defnydd helaeth o'r Gymraeg. Mae’n ysgol sy'n cynnig rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae'r ysgol ar safle hardd sy’n edrych dros Harbwr Abergwaun, gyda mynyddoedd y Preseli yn y cefndir. Ar hyn o bryd, mae 534 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae’r disgyblion o sbectrwm eang cymdeithasol a diwylliannol, sy'n rhoi awyrgylch bywiog i’r ysgol. Mae’r ardal yn gymysgedd o ieithoedd cymhleth - y Fro Gymreig ym mynyddoedd y Preseli, Trefdraeth, Y Strwmbl ac yn enwedig Cwm Gwaun, ac mae’r ardal wedi cadw llawer o’i hiaith a’i diwylliant Cymreig. O ganlyniad, defnyddir Cymraeg a Saesneg yn helaeth ledled yr ysgol. Ers canrifoedd mae Bae Abergwaun wedi bod yn bwynt mynediad i Brydain o Iwerddon; mae llawer o deuluoedd Gwyddelig wedi ymgartreu yn yr ardal leol, sy’n golygu bod cymysgedd unigryw o ddiwylliannau yn yr ardal.

Yn Ysgol Bro Gwaun, credwn fod gan bob plentyn y ddawn i gyflawni pethau mawr. Drwy weithio gyda'n gilydd fel un gymuned gefnogol rydym yn sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd eu llawn potensial. Rydym yn ysgol gynhwysol a chroesawgar, lle caiff myfyrwyr o bob cefndir a gallu eu gwerthfawrogi a'u parchu. Er ein bod yn falch o gyflawniad ein disgyblion yn academaidd ac o fewn llawer o agweddau eraill o fywyd yr ysgol, rydym yn ymrwymedig i welliant parhaus. Nid yw darpariaeth eilradd yn ddigonol i’n disgyblion, ac yn yr un modd, disgwylir y gorau oddiwrth y disgyblion. Rydym yn addysgu ein disgyblion fel nad yw anfantais yn rhwystr i lwyddiant, a bod addysg yn sail ar wneud dewisiadau a llwybrau mewn bywyd. Ein datganiad o fwriad yw 'Ein gorau bob amser; I’n hysgol, I eraill, I’n hunain’, ac rydym yn falch o fod yn gymuned dysgu ddwyieithog llawn. Mae disgyblion Ysgol Bro Gwaun yn mwynhau eu bywyd ysgol, ac yn falch iawn o’u hysgol. Gwneir pob penderfyniad er budd y myfyrwyr. Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol a gofalgar, yn cynnal safonau disgyblaeth, gwisg, cwrteisi a moesau da, lle gall pob myfyriwr ddatblygu hunan-ddibyniaeth ac hunan-ddisgyblaeth.  Rydym am i’n disgyblion i gyd ddatblygu’n ddysgwyr hyderus, gofalgar, gydol oes, sy’n plannu gwreiddiau doeth ar gyfer dyfodol disglair.

https://ysgolbrogwaun.com/ 

Cyngor Sir Ceredigion

Mae Awdurdod Lleol Ceredigion yn cynnal 36 o ysgolion cynradd. Mae tua 25% o ysgolion cynradd yr Awdurdod â 50 neu lai o blant. Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion hyn, Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol. Ar lefel uwchradd, mae’r Awdurdod yn hyrwyddo 4 ysgol gyfun sy’n amrywio o ran maint o 550 i 1200 o ddisgyblion. Mae’r Awdurdod hefyd yn cynnal un ysgol 3-16 a dwy ysgol 3-19 sydd yn darparu addysg i ddisgyblion o dair oed i un deg chwech a un deg naw oed. Mae tua 9,500 o blant yn mynychu ysgolion yr Awdurdod.

Mae gan yr Awdurdod amrywiaeth eang o ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysg arbennig, gan gynnwys unedau ymddygiad a chanolfannau adnoddau arbennigol, sydd ynghlwm wrth ysgolion y brif ffrwd mewn rhai achosion. Yn ogystal â’r cyfleusterau hyn, mae nifer o staff arbenigol yn cynorthwyo i sicrhau bod plant ag anghenion arbennig yn cael eu haddysgu, lle bynnag y bo’n bosibl, mewn ysgolion y brif ffrwd.

Yng Ngheredigion, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu lle addysg gynnar rhan amser (10 awr yr wythnos) ar gyfer pob plentyn 3 oed (adnabyddir hefyd fel Meithrin Cyfnod Sylfaen).  Mae lleoedd ar gael mewn unedau meithrin sy’n gysylltiedig ag ysgolion, cylchoedd chwarae neu feithrinfeydd dydd a gofrestrwyd am gyllid gyda’r Awdurdod.  Mae’r cyllid am 2 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos (gall rhai sefydliadau gwirfoddol gynnig sesiynau 2½ awr dros 4 diwrnod).  Mae ar gael ar gyfer y tri tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.

Nid oes gan yr Awdurdod gyfrifoldeb mwyach am Golegau Addysg Bellach. Un Coleg o’r fath sydd yn y Sir sef Coleg Ceredigion.

Sail Gwasanaeth Ysgolion Ceredigion yw’r athroniaeth o gynnig cyfleoedd dysgu gydol oes i bob aelod o’r gymuned. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid rydym yn ceisio darparu gweithgareddau ieuenctid, addysg oedolion, sgiliau sylfaenol i oedolion, cyfleoedd i ddysgu’r iaith Gymraeg, hyfforddiant a nifer o brosiectau datblygu cymunedol. Rydym yn credu bod y cyfleoedd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad yr unigolyn ac at lunio cymdeithas gynhwysol mewn Ceredigion ddwyieithog.

Mae’r Awdurdod Lleol, nid yn unig yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn y dosbarth, ond hefyd yn darparu pob math o wasanaethau cysylltiol megis cludiant ysgol, chiniawau ysgol, glanhau, hyfforddiant, adeiladau, datblygiad, cyngor addysgol a chefnogaeth i lywodraethwyr.  Er na fydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol, bydd yr Awdurdod yn parhau i gefnogi cyngor gyrfaoedd drwy’r Gwasanaeth Ysgolion. Ffurfiwyd Gyrfaoedd Cymru fel gwasanaeth annibynnol sy’n cynnig cyfarwyddyd ynglŷn â gyrfaoedd yng Ngheredigion.

Mae’r Gwasanaeth Ysgolion yn cyflogi tua 1,600 o bobl, a dyma gwasanaeth fwyaf yr Awdurdod Lleol gyda chyllideb flynyddol o £63 miliwn ym 2019/2020. Lleolir pencadlys y Gwasanaeth Ysgolion yn Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UE ac mae’n darparu man cyswllt i rieni, disgyblion, aelodau etholedig, staff a’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn ogystal â’r cyngor a ddarperir gan y Gwasanaeth Ysgolion ynglŷn â’r hyn a nodwyd uchod, lleolir nifer o asiantaethau cefnogol yno hefyd, megis ymgynghorwyr, seicolegwyr addysg a swyddogion cynhwysiant.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Ysgol Gymraeg Aberystwyth yw’r ysgol Gymraeg benodedig gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i dros bedwar cant o ddisgyblion.  Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos. Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i fwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

 

Saif yr Ysgol ar gyrion tref Aberystwyth, rhyw hanner milltir i’r dwyrain, ym Mhlascrug lle mae golygfeydd godidog. Agorwyd safle presennol yr ysgol yn 1989 a bellach mae dros 400 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae’r estyniad wedi sicrhau fod yna le addas ar gyfer dau ddosbarth i bob blwyddyn. Clustnodwyd lle chwarae caled a meddal i’r Meithrin a chwaraele a chae eang i weddill yr ysgol. Mae’r Cyngor Ysgol yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraethwyr er mwyn sicrhau fod amgylchedd yr ysgol yn sbarduno brwdfrydedd plant ac yn adlewyrchu barn y disgyblion.

 

Cymreictod                        Parchu ein gilydd                     Gwneud ein gorau glas

 

Yn ystod y ddau arolwg diwethaf, llwyddodd yr ysgol i dderbyn Rhagoriaeth ar draws pob un o’r meysydd arolygu. Yn ôl Adroddiad ESTYN yn 2016:

 

  • Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a’i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae’r nodau hyn yn treiddio’n gryf iawn trwy ei holl weithgareddau. Yn ystod eu cyfnod yno, mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cryf iawn. Maent yn perfformio ar lefelau sydd o leiaf yn cyfateb i’r hyn a ddisgwylir, tra bod dros hanner yn gyson yn cyflawni y tu hwnt i hyn.
  • Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy’r ysgol. O ganlyniad, mae safonau lles ac agweddau bron pob un disgybl tuag at ddysgu yn gryf. Mae ansawdd yr addysgu a’r profiadau dysgu o safon uchel iawn ac mae’r gefnogaeth ar gyfer sicrhau lles disgyblion yn nodwedd arbennig.
  • Caiff yr ysgol ei harwain yn effeithiol iawn gan bennaeth hyderus a chreadigol ac mae’r uwch dîm rheoli yn ei gefnogi’n gydwybodol gan sicrhau bod yr ysgol yn darparu addysg sy’n gyson o ansawdd uchel iawn ac sy’n seiliedig ar gynnal a chodi safonau.

 

Yn ddiweddar mae’r ysgol wedi bod yn arwain fel Ysgol Arloesol wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd, ac yn benodol, y Celfyddydau Mynegiannol. Yn ogystal, rydym yn cydweithio gyda Phrifysgol Cymru, Aberystwyth i gyd gynllunio rhaglen gynhwysfawr ar gyfer darpar athrawon y dyfodol. Mae’r Pennaeth hefyd wedi’i ddewis i fod yn aelod o’r Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol sy’n datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel addysgol.

 

‘Rhannu dysg a meithrin dawn

Coflaid o addysg gyflawn’

 

Gwefan yr ysgol:  www.ysgolgymraeg.cymru

Ysgol Gymunedol Plasgrug

Ym Mhlascrug, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu yn yr ysgol hon, sy’n rhoi’r plant yng nghanol ein cymuned. Credwn fod gan bob plentyn botensial i wneud cynnydd rhagorol trwy ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwyieithog sy’n ddiogel, yn ofalgar ac yn ysbrydolgar. Rhown y cyfle gorau posibl i bob plentyn lwyddo, a dathlu gyda nhw bob cam o’r ffordd.

Ysgol sy’n cael ei chynnal gan yr Awdurdod Addysg Lleol ac sydd wedi ei lleoli yn nhref arfordirol, braf Aberystwyth, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug. Ceir tua 400 o ddisgyblion rhwng 3 a 11 oed yn yr ysgol. Rhennir y dosbarthiadau yn grwpiau Blwyddyn gyda dosbarthiadau cyfochrog o allu cymysg yn rhedeg drwy’r ysgol ac mae maint y dosbarthiadau yn amrywio rhwng 20 a 30. Mae plant 3 oed y dosbarthiadau Meithrin yn mynychu’n rhan amser (bore neu brynhawn), gan fynychu’n amser llawn ar ôl cyrraedd 4 oed. Bydd disgyblion yn mynychu’r dosbarthiadau Derbyn prif ffrwd yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Mae cymuned yr ysgol yn gosmopolitan; daw tua chwarter y disgyblion o wledydd tramor. Cynrychiolir tua 38 o wledydd i gyd a siaredir 27 o wahanol ieithoedd yn yr ysgol. Ymfalchïwn yn amrywiaeth y diwylliannau a’r crefyddau a welir yn yr ysgol ac yn y cytgord a’r cyfeillgarwch sy’n datblygu ymhlith ein plant.

Ein nod ym Mhlascrug yw meithrin hinsawdd o fewn i’r ysgol a’r ystafell ddosbarth lle gall pob plentyn ddatblygu meddwl bywiog, ymholgar a dysgu ar gyflymdra sy’n addas ar gyfer eu profiad a’u gallu personol. Gan ein bod yn Ysgol Arloesi sy’n helpu i ddatblygu’r cwricwlwm newydd, rydym wedi gosod llais y disgyblion ar y blaen ym mhob dim a wnawn ac maen nhw bellach yn cael eu cynnwys wrth inni benderfynu ar yr hyn y byddant yn ei astudio. Datblygir sgiliau yn effeithiol o fewn i gyd-destun sy’n rhoi boddhad i’r plant ac yn ennyn eu diddordeb.

Mae ein tîm o athrawon a chynorthwywyr dysgu cyfeillgar a thwymgalon yn cefnogi datblygiad pob unigolyn i’w lawn botensial, gan sicrhau’r lefel uchaf posibl drwy ddisgwyliadau uchel a gwaith caled. Deallant a diwallu angen pob math o anghenion arbennig, hynny yw, corfforol, deallusol, ac emosiynol, yn unol ag anghenion ac amgylchiadau pob plentyn. Dymunwn i bob plentyn brofi llwyddiant, dathlu cyraeddiadau a theimlo’n braf amdanynt eu hunain.

Ein gobaith yw y bydd pob un o’n plant yn datblygu’n aelodau addysgedig, cwrtais a chyfrifol o’r gymuned; byddant yn parchu eu hunain, eu cyraeddiadau eu hunain a chyraeddiadau eraill, a chredoau crefyddol a diwylliannau eraill. Ymdrechwn i greu amgylchedd lle mae plant ac oedolion yn ystyried cwrteisi yn arferol, a lle ceir hefyd ymdeimlad cryf o berthyn a balchder ym mhob dim y byddant yn ei wneud.

Mae pob plentyn yn bwysig yn Ysgol Plascrug. Ein nod yw arwain ein disgyblion ar y llwybr i lwyddo er mwyn iddynt wireddu eu huchelgeisiau a’u breuddwydion.

Ysgol Bro Teifi

Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol ddwyieithog ar gyfer disgyblion 3-19 oed sy’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol Ceredigion. Agorwyd yr ysgol fel Ysgol Bro Teifi ym mis Medi 2016 yn dilyn cyfuno Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi gydag ysgolion cynradd Aberbanc, Pontsian, Coedybryn a Llandysul. Hon ydy’r ysgol gydol oed cyfrwng-Cymraeg cyntaf i’w hadeiladu yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad o £29.5m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Ar hyn o bryd, mae 917 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 380 o oedran cynradd a 537 o oedran uwchradd, gyda 98 o’r rhain yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Llandysul a’r fro.

Mae’r ddarpariaeth  yn seiliedig yn gadarn ar yr egwyddorion sylfaenol canlynol:

  • Sicrhau safonau dysgu ac addysgu rhagorol er mwyn datblygu potensial pob disgybl yn llawn a’u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.
  • Cefnogi pob disgybl i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol effeithiol er mwyn cael mynediad at holl bynciau’r cwricwlwm.
  • Meithrin hinsawdd addysgiadol lle mae staff a disgyblion yn awyddus i arloesi a lle gwelir heriau fel cyfleoedd i ddysgu a datblygu.
  • Datblygu ymwybyddiaeth a balchder yn ieithoedd, diwylliant, traddodiadau ac etifeddiaeth Cymru ymysg ein disgyblion a fydd yn sail i ehangu eu gorwelion, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o gydberthynas Cymru ag Ewrop a’r byd.
  • Datblygu perthynas lwyddiannus rhwng yr ysgol, y rhieni a chymuned eang Bro Teifi er mwyn cefnogi dysgu’r disgyblion.

Ysgol Uwchradd Y Trallwng

Ysgol gyfun gymysg ar gyfer disgyblion 11-18 oed ym Mhowys yw Ysgol Uwchradd Y Trallwng. Mae 900 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, yn cynnwys 160 yn y chweched dosbarth.  Rydym yn gymuned ddysgu ofalgar a chadarnhaol, sy’n anelu at helpu pob disgybl i lwyddo. Anogir pob disgybl i anelu’n uchel a gweithio’n galed er mwyn gwireddu ei uchelgais a’i botensial. Caiff hyn ei adlewyrchu yn arwyddair yr ysgol:

Codi Cyrhaeddiad Trwy Godi Disgwyliadau

Credwn ein bod yn meithrin gwerthoedd ac arferion sy’n galluogi disgyblion i fod yn hunanddisgybledig ac i ganolbwyntio ar ddysgu. Dymunwn i’n disgyblion anelu’n uchel, meithrin annibyniaeth fel dysgwyr, a gallu cydweithio’n bwrpasol gyda chyd-ddisgyblion ac oedolion yn unigol ac fel rhan o dîm. O ran cefnogi’r datblygiad hwn, ystyriwn bartneriaeth gadarnhaol rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol. Rydym hefyd yn gymuned ddysgu sy’n benderfynol o ddarparu’r profiadau dysgu gorau i’n disgyblion. Rydym yn ymateb i’r her o baratoi ein disgyblion ar gyfer anghenion byd sy’n newyd, ac rydym yn drwyadl wrth ddatblygu cwricwlwm a dulliau dysgu ac addysgu i ddiwallu’r anghenion hyn.  Gwnawn ein gorau i gynnig cefnogaeth a chyfleoedd i ddisgyblion o bob gallu drwy ein cwricwlwm, rhaglenni bugeiliol ac ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol.

Fel ysgol, mae gennym record gref o gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i hyfforddi athrawon ac mae gennym gysylltiadau rhagorol ag ysgolion uwchradd a chynradd lleol eraill yn cynnwys ysgolion dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Fel Ysgol Arloesi, ymgysylltwn a chydweithredu â chonsortiwm ERW, Llywodraeth Cymru a sefydliadau fel NACE (sy’n hybu darpariaeth ar gyfer y Mwy Abl a Thalentog) ac rydym wedi meithrin enw da wrth arloesi ym maes ymarfer ac addysgeg.

Ysgol Uwchradd Crucywel

Mae Ysgol Uwchradd Crucywel yn ysgol gyfun gwbl gynhwysol sydd wedi ei lleoli ym Mharc Cenedlaethol hardd ac ysbrydolgar Bannau Brycheiniog, yn nhref hyfryd Crucywel.

Cydnabyddir bod yr ysgol yn cyrraedd amcanion uchel gyda dysgu ac addysgu o safon uchel, ac yn ymddangos yn rheolaidd ymhlith y pum cant o ysgolion sydd ar y brig yn y Deyrnas Unedig. Mae canran uchel o’r disgyblion yn cyrraedd Trothwy Lefel Dau yn rheolaidd (o leiaf pum gradd A* - C TGAU neu gyfatebol) erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 4 ac mae’r disgyblion yn mynd ymlaen i sicrhau canlyniadau rhagorol ar ôl 16. Nodwyd mewn Arolwg diweddar gan Estyn: ‘Yn Ysgol Uwchradd Crucywel ceir diwylliant o uchelgais uchel y dylai pob disgybl gyflawni ‘rhagoriaeth drwy ymdrech’. Gwna’r ysgol yn siŵr bod disgyblion yn cael cymorth i gyflawni drwy’r gofal, cymorth ac arweiniad effeithiol iawn y mae’n eu darparu. Caiff hyn fuddion cadarnhaol iawn ar ymddygiad, lles ac agweddau ei disgyblion. Mae uwch arweinwyr a llywodraethwyr wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau bod staff a disgyblion yn deall gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r ysgol yn dda. Mae’r Tîm Arwain yn gwybod yn dda beth yw cryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu, ac mae ganddynt gynlluniau clir ar waith i wneud gwelliannau pellach’.  

Cynigiwn ystod eang o gyfleoedd cwricwlwm i’n holl ddisgyblion, wedi’u dysgu gan dîm arbenigol o staff arbennig o gymwys ac ymroddedig. Gweithiwn yn galed i adnabod a chefnogi anghenion dysgu unigol pob disgybl ac rydym yn credu na fydd yr un disgybl yn gadael Ysgol Uwchradd Crucywel heb ystod o gymwysterau da. Mae dewis cyfoethog o gyfleoedd allgyrsiol yn darparu agwedd bwysig iawn ar ethos yr ysgol.

Cynigiwn hefyd ystod o gyrsiau galwedigaethol yn cynnwys peth darpariaeth coleg rhan-amser. Yn ogystal â hyn, mae llawer o ddisgyblion yn mynychu sesiynau gyda’r hwyr ar ôl ysgol er mwyn cael cyfle i astudio ystod eang o ddewisiadau chwaraeon, academaidd a chreadigol.

Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i gyfoethogi dysgu; mae hyn yn cynnwys meddalwedd ryngweithiol ym mhob ystafell ddosbarth a chyfleusterau fideogynadledda.

Ein cenhadaeth yw bod yn ysgol gyfun gymunedol lle caiff pob unigolyn ei barchu’n fawr a lle mae perthnasau cadarnhaol, a sefydlir ar sail gofal a pharch, yn ganolog i’n gwaith. Credwn y gall pob disgybl ddarganfod, datblygu a chyrraedd eu potensial llawn i’w galluogi i lwyddo mewn byd cynaliadwy, pa bynnag lwybr a ddewisant. Mae Datganiad o Genhadaeth yr Ysgol yn sail i bob dim a wnawn yn Ysgol Uwchradd Crucywel ac fe’n harweinir gan werthoedd y mudiad Olympaidd a Pharalympaidd:

  • Parch
  • Rhagoriaeth
  • Cyfeillgarwch
  • Penderfyniad
  • Ysbrydoliaeth
  • Dewrder
  • Cydraddoldeb

Mae’r ysgol yn Ysgol Arloesi ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i yrru datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn eu blaen.