Prawf Cyfwerthedd TGAU

Bydd ymgeiswyr TGAU nad ydynt yn bodloni’r gofynion ar gyfer TGAU Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn cael cynnig cyfle i gymryd prawf cyfwerthedd. Lluniwyd y profion hyn i fodloni gofynion y graddau TGAU ar gyfer cael mynediad i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon Prifysgol Aberystwyth yn unig. 

Dyma sut mae’r broses yn gweithio:

  • Gwnewch gais drwy UCAS yn y dull arferol, gan sicrhau eich bod yn ticio’r blwch ‘Equivalence test applied for’.
  • Os yw eich cais yn bodloni gofynion eraill y cwrs, cewch eich gwahodd i gyfweliad.
  • Os yw eich cyfweliad yn foddhaol, cewch gynnig cyfle i gymryd y prawf/profion cyfwerthedd angenrheidiol fel amod o’ch cynnig.
  • I fod yn gymwys i wneud yr arholiadau, mae’n rhaid i chi fod wedi ymateb neu’n bwriadu ymateb gyda ‘Cadarn’.
  • Cynhelir y profion ym Mhrifysgol Aberystwyth ac anfonir manylion am y dyddiad, papur sampl a rhagor o gyfarwyddiadau.
  • Mae’n rhaid ichi nodi a ydych eisiau sefyll y profion Mathemateg a Saesneg yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Cewch ail-sefyll y prawf unwaith yn ystod y flwyddyn yr ydych yn ymgeisio ynddi.

Cost

Mae’r prawf cyntaf yn rhad ac am ddim. Os oes angen ichi ail-sefyll y prawf, mae cost o £75.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd ag anghenion dysgu datganedig roi gwybod i’r Adran Derbyn Myfyrwyr wrth archebu lle a darparu tystiolaeth o flaen llaw cyn yr arholiad er mwyn i ni allu gwneud addasiadau rhesymol ar y diwrnod. Bydd yr ymgeiswyr yn cael 15 munud yn ychwanegol ar gyfer pob prawf. Bydd angen darparu tystiolaeth ar y diwrnod hefyd.

Bydd angen darparu prawf ffotograffig o bwy ydych chi ar y diwrnod ee pasbort neu drwydded yrru. Ni chaniateir i ymgeiswyr sefyll y prawf os na ddangosir y dystiolaeth hon.

Cyfarwyddyd

Fe'ch cynghorwn yn gryf i ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant i baratoi ar gyfer y profion.  Efallai y bydd yr adnoddau canlynol yn ddefnyddiol: https://www.bbc.com/bitesize.