Daearyddwyr uchel eu bri o Aber yn dathlu eu Priodas Ddiemwnt

John ac Annabel yn seremoni raddio Annabel yn Aber, 1960. Roedd John yn gweithredu fel marsial yn y seremoni yn hen Neuadd y Brenin.

John ac Annabel yn seremoni raddio Annabel yn Aber, 1960. Roedd John yn gweithredu fel marsial yn y seremoni yn hen Neuadd y Brenin.

13 Medi 2022

Ar 12 Awst 1961, priododd John Rodda ac Annabel Edwards yn eglwys plwyf Knowle yn Swydd Warwick, eglwys hyfryd sy’n dyddio o’r 15fed ganrif. Cyfarfu’r pâr am y tro cyntaf yn Ystafell Ymarferol y De yn Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg a oedd, ar y pryd, ar safle’r hen ffowndri yn Heol Alexandra. Newydd raddio oedd John, ac roedd yn gweithio ar ei PhD, ac yn gwneud gwaith arddangos. Roedd Annabel yn is-fyfyrwraig yn y dosbarth ymarferol. Graddiodd Annabel yn 1960. Cwblhaodd John ei ddoethuriaeth yn yr un flwyddyn gydag arbrawf wedi'i ddylunio'n ystadegol, a oedd yn torri tir newydd, yn defnyddio mesuryddion glaw yng Nghwm Ystwyth. Profodd mai dim ond rhan o'r stori oedd yr hen ddoethineb a dderbyniwyd yn eang, sef bod "glawiad yn cynyddu gydag uchder": profodd fod agwedd (cyfeiriad y llethr) ac aramlygiad hefyd yn chwarae rhan.

Roedd hi’n gyfnod pwysig yn natblygiad Hydroleg yn y DU, wrth i'r Senedd drafod goblygiadau ymchwil diweddar a awgrymodd fod plannu coedwigoedd mewn dalgylchoedd cronfeydd dŵr yn gwastraffu adnoddau dŵr gwerthfawr oherwydd anwedd-drydarthiad. Cafodd John waith fel cymrawd ymchwil ar astudiaethau dalgylchoedd yn yr Orsaf Ymchwil Hydrolig ger Wallingford, a chyn hir fe sefydlwyd yno Sefydliad Hydroleg ar wahân a noddwyd gan y llywodraeth. Ymgartrefodd Annabel a John am oes yn Brightwell-cum-Sotwell gerllaw.

Bu blynyddoedd John yn Aber yn werthfawr o ran dod o hyd i ddalgylchoedd  Gwy Uchaf a Hafren. Roedd dalgylch Hafren newydd ei goedwigo, ac felly dyna’r lleoliad delfrydol ar gyfer yr arbrawf cyntaf i brofi'r ddamcaniaeth. Cafodd yr ymchwil ym Mhumlumon glod rhyngwladol. Parhaodd John â'i astudiaethau ar lawiad, gan ddatblygu'r mesurydd pwll – y dull mwyaf manwl-gywir ar y pryd ac fe’i profwyd yn eang ar Bumlumon ac yn Swydd Rhydychen – a brofodd fod y mesuryddion safonol yn tanfesur glawiad, tua 8% yn llai o leiaf.

Ym 1969, symudodd John ac Annabel i Genefa wrth i John gymryd swydd yn Ysgrifenyddiaeth Sefydliad Meteorolegol y Byd. Dyna’r cyntaf o sawl cyfnod yng Ngenefa, gan arwain at benodi John yn Gyfarwyddwr Hydroleg ac Adnoddau Dŵr yn y Sefydliad hwnnw o 1988 tan ei ymddeoliad yn 1995. Yn y blynyddoedd rhwng y cyfnodau hynny, yn ôl adref, daeth John yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar y Sefydliad Hydroleg, a bu'n gweithio yn Adran yr Amgylchedd yn Whitehall a'r Uned Data Dŵr yn Reading.

Un o gysylltiadau hiraf John oedd gyda Chymdeithas Ryngwladol y Gwyddorau Hydrolegol drwy gydol blynyddoedd allweddol yn natblygiad y ddisgyblaeth wyddonol honno, gan ddechrau yn 1967 ac yn dod i uchafbwynt fel Llywydd o 1995 hyd 2001. Golygodd John yr Hydrological Sciences Journal a daeth â Gwasg IAHS i Wallingford.

Dyfarnodd Aber radd DSc iddo yn 1979. Dyfarnodd yr IAHS y Wobr Hydroleg Ryngwladol iddo yn 2004. Yn ôl yn Aber, etholwyd John yn Athro er Anrhydedd yn ein Hadran ar ddechrau'r 1990au a pharhaodd i roi darlithoedd ar y cwrs Adnoddau Dŵr Byd-eang i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn tan 2009. Yn ogystal, cychwynnodd John gyfres o gynadleddau ar "Hydroleg Geltaidd", a chynhaliwyd yr ail ohonynt yn Aber yn 2000. Mae John wedi cyd-ysgrifennu a golygu nifer o lyfrau, gan gynnwys World Water Resources at the Beginning of the Twenty-first Century (2004) a Progress in Modern Hydrology (2015). Bu hefyd yn athro gwadd mewn nifer o Brifysgolion ym Mhrydain a thrwy Ewrop.

Dechreuodd Annabel ei gyrfa yn dysgu Daearyddiaeth yn Ysgol Holt yn Wokingham, gan symud i Ysgol Merched Didcot fel Pennaeth Daearyddiaeth a daeth yn Bennaeth ar y Chweched Dosbarth yn ddiweddarach ac yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli. Yn 1988 gadawodd ddysgu i fynd gyda John i Genefa. Yno, daeth yn Ymgynghorydd i Wasanaeth Cyswllt Anllywodraethol y Cenhedloedd Unedig, gan gyhoeddi Women and the Environment ar gyfer y corff hwnnw i gyd-fynd ag Uwchgynhadledd Ddaear Rio 1992. Yn 1994, cyhoeddodd Women in the Humid Tropics ar gyfer Rhaglen Hydroleg Ryngwladol UNESCO. Ar yr un pryd, rhwng 1990 a 1995, gwasanaethodd Annabel fel Swyddog Rhaglen Ffederasiwn Rhyngwladol Menywod Prifysgolion.

Mae gan Annabel a John ddau fab a phedwar o wyrion.

Dyma eu llongyfarch ill dau ar gyrraedd y garreg filltir hon gan ddymuno pob llawenydd iddynt.

John ac Annabel yn seremoni raddio Annabel yn Aber, 1960. Roedd John yn gweithredu fel marsial yn y seremoni yn hen Neuadd y Brenin.

John ac Annabel yn seremoni raddio Annabel yn Aber, 1960. Roedd John yn gweithredu fel marsial yn y seremoni yn hen Neuadd y Brenin.

 

Dr John Rodda yn derbyn y Wobr Hydroleg Ryngwladol.

Dr John Rodda yn derbyn y Wobr Hydroleg Ryngwladol.