Prifysgol Aberystwyth yn addo lleihau ei defnydd o blastig untro

Yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd a Dewi Day, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd

Yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd a Dewi Day, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd

22 Hydref 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi addo lleihau ei defnydd o blastig untro yn barhaus.  Dan arweiniad timau Cynaliadwyedd a Lletygarwch y Brifysgol, mae'r addewid yn cynnwys:

  • Cynnal o leiaf un ‘Diwrnod Di-blastig’ bob blwyddyn i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff a myfyrwyr am effeithiau plastigion untro.
  • Cynnal gweithgor plastigion untro a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y prif randdeiliaid i helpu i canfod a gweithredu gwelliannau pellach.
  • Enwebu hyrwyddwyr o adrannau allweddol i fod yn rhan o'r gweithgor. Bydd yr hyrwyddwyr yn gyfrifol am nodi'r defnydd a wneir o blasitigon untro yn eu hadran ac yn cyflwyno adroddiad blynyddol ynghylch y cyfleoedd a nodwyd a'r gwelliannau a wnaed bob blwyddyn.
  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol bob mis Medi yn manylu ar y cynnydd a wnaed ar draws y Brifysgol i geisio lleihau’r defnydd o blastigion untro.  

Gwnaed yr addewid heddiw, dydd Mawrth 22 Hydref ar Ddiwrnod Di-blastig blynyddol y Brifysgol wrth iddi gyfyngu ar werthu nifer o eitemau plastig untro yn ei siopau lletygarwch a hyrwyddo cynnig arbennig ar brynu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd:

“Mae gwastraff plastig yn broblem fawr. Pan fydd plastigion yn cyrraedd yr amgylchedd, maen nhw'n llygru moroedd ac yn risg i fywyd gwyllt. Fel prifysgol ar yr arfordir mae lleihau ein hôl troed plastig ledled y Brifysgol yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd, gyda'n defnydd o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio. Mewn 2 flynedd rydym wedi arbed 60,000 o gwpanau untro rhag mynd i dirlenwi. Mae addewid heddiw yn adeiladu ar ein hymrwymiad i weithio gyda'n staff a'n myfyrwyr i nodi a gweithredu gwelliannau pellach i leihau’r defnydd o blastig untro er budd yr amgylchedd. ”

Ym mis Awst 2018, enwyd Prifysgol Aberystwyth y brifysgol gyntaf yn y byd i ennill statws Prifysgol di-blastig, gan Surfers Against Sewage.

Diwedd