Penwythnos Aduniad Cyn-fyfyrwyr

Manylion y digwyddiad

Dathliad arbennig o Hanner Canmlwyddiant yr Adran Cyfrifiadureg gyda'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr.

Croeso cynnes i gyn-fyfyrwyr, staff a ffrindiau (o bob degawd ac o bob adran) wrth inni ddod ynghyd â'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr i ddathlu datblygiadau’r Brifysgol, yn y gorffennol a'r dyfodol, gan gynnwys hanner canmlwyddiant ein Hadran Cyfrifiadureg arloesol.

Cyfle gwych i ailgysylltu ac hel atgofion gyda hen ffrindiau, cwrdd â chyfoedion a gweld beth sydd wedi newid ers pan oeddech chi’n fyfyriwr yn Aber.

Pryd a ble

Dydd Gwener 26 Mehefin i Ddydd Sul 28 Mehefin 2020

Dydd Gwener 26 Mehefin

1630 – 1730        Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCF 

                              Hen Goleg, Ystafell Seddon

1800 – 2000        Derbyniad Croeso 

                              Hen Goleg, Hen Neuadd

2000 – 2200        Cwis Tafarn (Gwybodaeth gyffredinol)

                              Lleoliad yn y dref (i'w gadarnhau)

 

Dydd Sadwrn 27 Mehefin

Amryw o ddigwyddiadau yn yr Adran Cyfrifiadureg ar Gampws Penglais (manylion pellach i ddilyn)

1000 - 1230         Penblwydd Hapus! Dathlu gyda paned a chacen

                              Campws Penglais

1900 – 2200        Swper dathlu

                              Medrus, Campws Penglais

 

Archebwch yma

 

Mwy o fanylion i ddilyn yn agosach at y digwyddiad