Zoran Tihomirovic

Graddiodd Zoran gyda MA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2014.

Gwirfoddolodd Zoran am gyfnod byr gyda Chanolfan Ranbarthol Cynorthwyo â Gweithredu a Gwirio’r Rheolaeth ar Arfau, cyn gweithio fel swyddog desg i Ffederasiwn Rwsia yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor Gweriniaeth Croatia.

Ers 2016 mae wedi gweithio fel cynorthwyydd dysgu i Gadair Llenyddiaeth Rwsia yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Zagreb, Croatia.


“Mae’r sgiliau dadansoddi a enillais wrth astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth yn werthfawr iawn yn fy swydd bresennol, yn ogystal â swyddi blaenorol yn y llywodraeth. Fe roddodd fodd i mi ehangu fy sgiliau a fy ngradd Rwsieg a chymdeithaseg a’u trosglwyddo i’r maes gwleidyddiaeth ryngwladol.”