Tony Ford

Graddiodd Tony gyda BSc mewn Cemeg yn 1963 ac arhosodd yma i gwblhau MSc yn 1965.

Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Y ffaith ein bod wedi ein hynysu gymaint oddi wrth bob man arall. Wedi i ni gyrraedd Aber ar ddechrau'r tymor, yma yr oedden ni tan y gwyliau nesaf. Oherwydd hynny, roedden ni’n creu ein hwyl ein hunain, ac roedd digon o gymeriadau go iawn o’n cwmpas, felly roedd yna rywbeth yn digwydd trwy’r amser, ac roedden ni’n gallu gwneud ffrindiau yn hawdd trwy ein rhwydweithiau cymdeithasol.

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?

Rwyf wedi ymddeol yn awr, ond yn sgil fy mlynyddoedd fel myfyriwr israddedig, ac yna fel myfyriwr MSc, roedd arna i eisiau bod yn academydd, ac fe wnaeth fy hyfforddiant cychwynnol fy ngalluogi i fynd ymlaen i wneud PhD yng Nghanada. Oddi yno, es ymlaen i'm swydd academaidd gyntaf. Wedi hynny, treuliais fy ngyrfa ar ei hyd yn dysgu ac yn ymchwilio mewn prifysgolion.

Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Yr un fyddai fy nghyngor i unrhyw fyfyriwr sy'n astudio unrhyw gwrs. Penderfynwch yn gynnar pa yrfa yr hoffech ei dilyn, ewch amdani yn llawn ymroddiad, ond peidiwch ag anghofio nad gwaith yw bywyd prifysgol i gyd, a chymerwch ran lawn yn yr holl weithgareddau cymdeithasol sydd ar gael. Roedd llawer o'r ffrindiau a wnes i yn astudio cyrsiau gwahanol i f’un i, ac mae'n bwysig creu cysylltiadau cymdeithasol mor eang â phosibl, ymhlith y bobl hynny sydd â diddordebau tebyg i chi. Byddai pethau wedi bod yn eithaf diflas pe byddwn wedi gorfod treulio fy holl amser gyda fferyllwyr.