Thomas Pegram

Graddiodd Thomas o Aber yn 2002 gyda BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda’r Gyfraith, gan ddilyn hynny gyda PhD yn Rhydychen. Mae bellach yn ddarlithydd prifysgol yn Nulyn.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Yn academaidd, yr hyn roeddwn i’n ei werthfawrogi fwyaf am Aberystwyth wrth i mi symud at gyflawni fy ngradd oedd ansawdd yr addysgu a safon y gyfadran. Mae’n adran gymharol fach gyda digon o gyfle i ddod i adnabod eich athrawon a’ch cyd-fyfyrwyr. Manteisiais hefyd ar y rhaglen gyfnewid i fynd i Brifysgol McGill ym Montreal, rhywbeth a gyfoethogodd fy mhrofiad israddedig yn fawr ac ategu fy astudiaethau yn Aber hefyd. Ar nodyn mwy personol, roedd Aber yn brifysgol gyfeillgar, gyda chorff rhyfeddol o fawr o fyfyrwyr rhyngwladol, mewn lleoliad hudol - cyferbyniad enfawr i gael fy magu dafliad carreg o Lundain. Mae gen i atgofion melys o gerdded ar hyd llwybrau’r arfordir i gyfeiriad Borth wrth iddi nosi gyda’r haul yn machlud dros y dŵr.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Rwy’n ddarlithydd gwyddor wleidyddol (cysylltiadau rhyngwladol) yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Rwyf i wedi dal cymrodoriaethau ymchwil yn Ysgolion y Gyfraith Prifysgol Efrog Newydd a Phrifysgol Harvard ynghyd â chwblhau PhD mewn Gwleidyddiaeth o Goleg Nuffield, Prifysgol Rhydychen. Does dim amheuaeth fod Aberystwyth  wedi chwarae rhan fawr yn fy arwain at fy newis yrfa yn y byd academaidd. Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber yw un o’r gorau drwy’r byd ac mae’r darlithwyr y mae’n eu denu’n parhau i fod yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth yn fy ngwaith ar hyn o bryd. Roedd cefnogaeth rhai athrawon penodol yn Aber yn hanfodol i fy natblygiad fel ysgolhaig.  Rwy’n cofio’n glir y profiad ffurfiannol o gwblhau fy nhraethawd ymchwil olaf - y brwdfrydedd am y pwnc dan sylw oedd bron yn obsesiynol, cyfraniad ysgolheigion blaenllaw yn eu maes, a’r boddhad gwirioneddol wrth dderbyn fy ngradd derfynol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Cofiwch gadw meddwl agored wrth ymwneud â’r cwrs gan weld i ble bydd eich diddordeb yn eich arwain. Mae adran Aber yn gadarnle ar gyfer ymagwedd fwy eclectig feirniadol at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol na’r hyn a welir mewn mannau eraill. Manteisiwch ar y rhyddid deallusol hwn, dewiswch bynciau sy’n eich gwthio i feddwl y tu hwnt i’r llwybr arferol, ac edrychwch ar y byd mewn ffyrdd newydd. Gwnewch ymdrech i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a’ch athrawon; mae sawl cyfeillgarwch cryf a grëwyd yn Aber yn dal i gyfoethogi fy mywyd yn bersonol ac yn broffesiynol. Defnyddiwch y cyfleoedd sy’n eu cyflwyno eu hunain, yn benodol byddwn yn argymell holi am y rhaglenni cyfnewid semester. Mae semester yn astudio dramor yn ffordd wych i ehangu eich gorwelion, astudio pynciau newydd, gwneud ffrindiau newydd, a chynnig persbectif ar yr hyn sy’n gwneud Aber yn arbennig. Yn olaf, ceisiwch gadw anian gadarnhaol hyd yn oed os yw pethau’n anodd. Bydd yn talu ffordd.