Suzanna Gwyn-Thomas

Graddiodd Suzanna Gwyn-Thomas o Aber yn 2001 gyda LL.B. yna aeth ymlaen i astudio ar gyfer LL.M. mewn cyfraith fasnachol, cyn cwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith a chymryd cytundeb hyfforddi gyda Allen & Overy, cwmni o gyfreithwyr rhyngwladol. Treuliodd Suzanna dros chwe blynedd yn Allen & Overy, ar l cymhwyso fel Cyfreithiwr Cysylltiol yn yr adran gorfforaethol yn swyddfar cwmni yn Llundain, lle bun ymwneud ag ystod eang o gytundebau corfforaethol, gan gynnwys cydsoddiadau a chaffaeliadau preifat a chyhoeddus a chynigion cyhoeddus cychwynnol. Mae Suzanna bellach yn gyfreithiwr mewnol ir tm syn ymwneud marchnadoedd cyfalaf ecwiti EMEA a thrafodion cyfreithiol cydsoddiadau a chaffaeliadau yn un or prif fanciau buddsoddi byd-eang.

Beth ydych chi n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Yn fwy na dim, rwyn cofior mr a chyfeillgarwch. Roedd y mr yn elfen gyffredin ym mywyd pawb yn Aber, ac yn gefndir i hynt sawl cyfeillgarwch a flodeuodd yno. Boed wrth fynd am dro bach hamddenol ar hyd y prom gydag un och cyd-fyfyrwr y gyfraith ar noswyl arholiad, profi gwyntoedd cryf y gaeaf ar y ffordd ir tafarnau ar y prom gydach cyd-breswylwyr, neu gwrdd ffrindiau ar y traeth i fwynhau pysgod a sglodion ar machlud.

Mae lleoliad Aber yn hollol unigryw. Roeddwn in gwybod y byddwn, yn l pob tebyg, yn mynd i fyw a gweithio yn Llundain yn y pen draw, felly roedd y cyfle i ohirio bywyd dinesig am ychydig flynyddoedd yn apelio. Maer dref glan mr fach, gyfeillgar, ddiymhongar hon, syn gorwedd yn glud rhwng y mynyddoedd ar mr, yn wahanol iawn ir ddinas fawr, ac maen cynnig sylfaen dda ar gyfer bywyd cytbwys.

Beth ydych chin ei wneud nawr o ran eich gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Rydw i bellach yn gyfreithiwr corfforaethol mewn banc buddsoddi byd-eang. Cefais fy mlas cyntaf o gyfraith cwmnau yn Aber. Oherwydd yr ystod o bynciau a oedd ar gael ar y cwrs LL.B. bu modd i mi ategur diddordeb hwn modiwlau cyfraith fasnachol eraill. Roeddwn in ddigon ffodus i gael cymryd rhan mewn cynllun ERASMUS, lle treuliais 6 mis yn astudio cyfraith fasnachol a busnes rhyngwladol ac Ewropeaidd ym Mhrifysgol Tampere yn y Ffindir. Mwynheais hyn yn fawr, a bur profiad o fyw mewn gwlad a diwylliant arall yn help i baratoi ar gyfer y chwe mis a dreuliais yn gweithio yn swyddfa Allen & Overy yn Singapore.

Pa gyngor fyddech chin ei roi i fyfyriwr syn gwneud eich cwrs chi nawr?

Chwaraewch yn galed, ond gweithiwch yn galed hefyd. Os ydych chi am ddilyn gyrfa mewn cwmni cyfreithiol yn y ddinas, maen allweddol eich bod yn cael o leiaf 2:1. Wedi dweud hynny, mwynhewch bob eiliad. Maer cwrs LL.B. yn Aber yn eang - gwnewch y gorau ohono. Astudiwch bynciau cyfreithiol rydych yn eu cael yn ddiddorol yn hytrach na chanolbwyntio ar feysydd rydych chin teimlo rheidrwydd iw dilyn. Manteisiwch ar arbenigedd y tiwtoriaid. Maent yn gyfeillgar, yn agored ac maent yno ich helpu. Yn fwy na dim, byddwch yn gytbwys. Mae cwmnau cyfreithiol am gyflogi pobl sgiliau academaidd cryf ond sydd hefyd yn dilyn diddordebau eraill tu allan ir gyfraith, ac Aber ywr lle perffaith i ddod o hyd ir diddordebau hynny.