Natalia Udaondo Rodríguez

Graddiodd Natalia Udaondo Rodríguez o’r Adran Busnes a Rheoli yn 2006 gyda MScEcon mewn Cyllid Rhyngwladol. Yn ogystal â’i gyrfa lwyddiannus Natalia yw ein llysgennad answyddogol yn Sbaen ac mae’n hapus i gynghori unrhyw un sy’n teithio, byw neu weithio yno. Cysylltwch â hi: spain@alumni.aber.ac.uk.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber? 

Y bobl yn bendant. Y darlithwyr a’r myfyrwyr – roedd yn deimlad cymunedol gwych.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Llawer o bethau mewn gwirionedd, o’r aseiniadau, i astudiaethau achos gwirioneddol neu’r traethawd ymchwil. Y ffordd o feddwl a’r agwedd at wahanol heriau.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Gwnewch y gorau o’r profiad. Byddwch yn elwa’n fawr ohono.