Julian Bill

Graddiodd Julian o Aber yn 1996 gyda gradd MEng mewn Peirianneg Meddalwedd. Mae ef bellach yn gweithio i Google yng Nghaliffornia.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae gennyf lawer o atgofion gwych o Aber, o fy mlwyddyn gyntaf yn Neuadd Plynlymon, gemau rygbi oddi cartref mewn cymaint o lefydd hyfryd, prosiect blwyddyn olaf dwys ond arbennig o ddiddorol ac, yn bennaf oll, y cylch agos o ffrindiau a ddaeth oddi yno gyda mi. Amseroedd da.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Rwy’n Rheolwr Cynnyrch Pandora yn Oakland, Califfornia a chyn hynny roeddwn yn gweithio i Google, yn rheoli tîm o beirianyddion gwerthu a rheolwyr cyfrifon technegol. Roedd fy ngradd mewn Peirianneg Meddalwedd yn ddechrau gwych i’m gyrfa dechnegol gan drwytho ynof arferion peirianneg sydd mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1996.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Os ydych yn frwd iawn am yr hyn rydych yn ei wneud, manteisiwch ar y cyfle a pheidiwch â bod ofn dangos hynny. Y bobl hapusaf, a’r fwyaf llwyddiannus ym myd y Rhyngrwyd yw’r rhai sydd wir yn caru’r hyn maen nhw yn ei wneud ac sy’n gallu ennyn y brwdfrydedd hwnnw mewn eraill. Cyngor llai diddorol fyddai eich atgoffa i ddysgu eich ystadegau. Mae data mawr, a’r gallu i’w ddehongli, yn hanfodol.