Jackie Holderness

Llun o Jackie

Astudiodd Jackie Saesneg a Chelf (gyda blwyddyn o Eidaleg) yn Aber, a graddiodd yn 1975. Yn ystod ei chyfnod yno, helpodd i olygu a dylunio cylchgrawn i fyfyrwyr a threfnu nifer o ddigwyddiadau celf. Ers hynny mae hi wedi gweithio mewn Addysg, ym Mhrydain a thramor, fel athrawes, ysgrifennwr, darlithydd (Prifysgol Brookes Rhydychen), ymgynghorydd, hyfforddwr a llywodraethwr ysgol.

Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?

Mae fy atgofion mwyaf clir am fy nghyfnod yn Aber yn ymwneud â ffrindiau a Theatr y Werin, lle'r oeddwn i'n gweithio tu ôl i'r llwyfan, ar y llwyfan yn achlysurol ac i fyny yn y blwch goleuo yn rheoli'r sbotlamp i gwmnïau teithiol, gan gynnwys bale Rambert. Fe wnes i fwynhau pob un o'm cyrsiau, diolch i'r tiwtoriaid a'r darlithwyr rhagorol a'n hysbrydolodd a'n meithrin yn fedrus. Yn fy mlwyddyn olaf, roeddwn yn byw ar fferm ac ar ben fy nigon yn harddwch bryniog cefn gwlad ger y môr. Rwy'n gwybod erbyn hyn mor bwysig roedd fy holl brofiadau fel myfyriwr israddedig, gan fod pob un o’r amrywiol elfennau hynny yn dal yn rhan ganolog o fy mywyd.

Beth ydych chi'n ei wneud yn awr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich cynorthwyo?

Am y bum mlynedd ddiwethaf, rydw i wedi gweithio fel Swyddog Addysg i Gadeirlan Eglwys Crist, lle rydw i'n rhedeg y rhaglen addysg ac ymestyn allan i ysgolion a theuluoedd ac yn mwynhau’n arw cael cyflwyno 1,300 mlynedd o hanes a threftadaeth i blant ac oedolion trwy'r bensaernïaeth syfrdanol. Mae’r disgyblion Cynradd ac Uwchradd sy'n dod ar ymweliadau’n cytuno fod gen i un o'r ystafelloedd dosbarth harddaf yn y byd. Mae'n brofiad arbennig iawn gweld eu llygaid yn agor led y pen mewn syfrdan pan fyddant yn cyrraedd ein lle cysegredig neu'n ymweld â'n cysegrfa ganoloesol.

Tywysoges Eingl-Sacsonaidd o'r enw Frideswide yw Nawddsant Rhydychen. Roedd ei henw'n golygu 'Tangnefedd Mawr' ac fe'm hysbrydolwyd gan ei hanes i roi'r gorau i ysgrifennu cyhoeddiadau addysgiadol ac ysgrifennu fy llyfr lluniau cyntaf, 'The Princess who Hid in a Tree', a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Bodleian. Er mawr syndod a hyfrydwch i mi, cyflwynodd y Bodleian y llyfr i wobrau Illumination 2020, ac enillodd y llyfr fedal Aur yng Nghategori Llyfrau Lluniau i Blant. http://www.illuminationawards.com/15/2020-medalists

Roedd byw ac astudio yn Aberystwyth yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy nghariad at lenyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd y radd anrhydedd cyfun yn gadael i mi gyfuno fy nghryfderau gweledol a llenyddol a rhoi'r ehangder, y wybodaeth a'r sgiliau roedd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa mewn addysg.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Mwynhewch y lle a chrëwch gasgliad o atgofion cadarnhaol. Dim ond dwywaith ers imi raddio yr ydw i wedi bod yn ôl, ond ar y ddau achlysur, roedd y lle'n fy nghyfarch yn gynnes ac yn ailddeffro atgofion melys. Defnyddiwch eich penwythnosau a'ch hafau i weithio tu allan i fyd y Brifysgol, er mwyn datblygu hyblygrwydd ac ehangu eich profiad. Canolbwyntiwch ar eich astudiaethau a gadewch iddynt eich ysgogi a dilynwch eich calon a'ch chwilfrydedd. Manteisiwch ar y nifer o glybiau a chymdeithasau, a byddwch yn ddigon dewr i gymryd rhan lawn yn yr hyn sydd gan fywyd y brifysgol i'w gynnig. Mwynhewch y cymdeithasu ond edrychwch ar ôl eich corff a'ch meddwl. Cadwch yn iach a mwynhewch y cerdded a'r traeth. Gwnewch yn fawr o'r llyfrgelloedd hyfryd a datblygwch sgiliau ymchwil cadarn, a fydd yn hynod drosglwyddadwy. Byddwch yn barod i dderbyn na fydd eich llwybr gyrfa o reidrwydd yn union fel yr ydych chi'n ei ddychmygu. Roeddwn i wedi bwriadu rhedeg oriel gelf neu fod yn fardd! Ond mae'n bosib mai ysgrifennu llyfrau lluniau yw'r casgliad rhesymegol i fy mreuddwydion? Beth bynnag yr ydych chi'n ei gyflawni, fe fyddwch yn edrych yn ôl ac yn sylweddoli y bydd Aberystwyth wedi rhoi'r lle, y ddaearyddiaeth a'r amser yr oedd eu hangen arnoch chi i dyfu.