Imsal Shahid

Graddiodd Imsal Shahid o Aber gyda LLB, cyn mynd ymlaen i astudio Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mirmingham. Erbyn hyn mae'n Gyfarwyddwr Cyfreithiol a Masnachol mewn cwmni uchel ei fri yn rhyngwladol.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Yr hyn rwy’n ei gofio fwyaf o fy amser yn Aber yw’r arfordir cyfareddol ac edrych ar y machlud prydferth. Hefyd mae ymdeimlad gwirioneddol gryf o gymuned a pherthyn yn Aber. Mae’r myfyrwyr a’r bobl leol yn gyfeillgar iawn ac o’r diwrnod cyntaf rydych chi’n teimlo’n gartrefol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?

‘Prifysgol Aberystwyth mae’n debyg yw’r lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr.’ Dyna ddatganiad a wnaed gan y Baromedr Myfyrwyr; datganiad yr wyf i a llawer o'm ffrindiau yn cytuno ag e.

Prifysgol Aberystwyth oedd fy newis cyntaf wrth geisio penderfynu lle i wneud fy ngradd gyntaf yn y gyfraith. Roedd hyn oherwydd yr enw da rhagorol a’r ffaith ei bod bryd hynny, fel y mae heddiw, yn cael ei chyfrif yn un o’r ysgolion cyfraith gorau. Gallaf ddweud yn hyderus fy mod i wedi gwneud y dewis cywir.

Gwelais fod Prifysgol Aberystwyth yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygiad y myfyriwr israddedig o ran y sgiliau personol a deallusol y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, sy’n golygu cyfleoedd gwell at y dyfodol.

Ar ôl graddio, es ymlaen i wneud y Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol y Gyfraith. Yna cefais gontract hyfforddi a threulio blwyddyn yn yr adran fasnachol cyn cymhwyso fel cyfreithiwr.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Y peth gorau am fod yn y Brifysgol yw dod i’ch adnabod eich hun fel unigolyn. Mae Aber yn lle gwych i wneud hyn hefyd, oherwydd mae’n dref brydferth gydag amrywiaeth wych o bobl i gyfarfod a chymdeithasu â nhw. Mae bywyd myfyriwr yn gyffredinol yn wych, oherwydd er gwaethaf yr holl waith academaidd sydd i’w wneud mae pwyslais mawr hefyd ar gael amser da a chymryd rhan mewn cynifer o bethau â phosibl.