Herman Foss

Graddiodd Herman Foss o Aber gyda gradd mewn Gweinyddu Busnes yn 1993. 

Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

O ran yr addysg, rwy'n cofio’r awyrgylch yn y darlithfeydd, yn hamddenol ond eto o ddifrif, a phori ar hyd y silffoedd llyfrau a thrwy’r pentyrrau o lyfrau yn y llyfrgell. Ar wahân i hynny, yr agweddau cymdeithasol o ran ymuno â chlybiau a chymdeithasau’r myfyrwyr - Hoci a’r RocSoc i mi - nofio a chwarae sboncen, bywyd mewn fflat myfyrwyr a chreu ffrindiau oes ar draws ffiniau, y prom, y siopau llyfrau ail-law yn y dref, Andy’s Records, a Heron Music (lle prynais sawl offeryn yn ystod fy nhair blynedd yn Aber).

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?

Er 1994, rwyf wedi bod yn gweithio yn TONO, cymdeithas hawliau perfformio Norwy, gan dreulio’r deg mlynedd diwethaf a mwy ym maes gwasanaethau cerddoriaeth ar-lein. Rwyf hefyd wedi bod yn weithgar yn wleidyddol gyda Phlaid Cynnydd Norwy (rhyddfrydol ar yr ystyr Ewropeaidd). Mae’r addysg brifysgol eang a gefais yn Aber, a oedd yn cynnwys cyfraith busnes, marchnata rhyngwladol, economeg, gwleidyddiaeth, athroniaeth a sawl pwnc arall, wedi cyfrannu at greu sylfaen sefydlog ar gyfer fy ngwaith gyda'r busnes hawliau cerddoriaeth a'm gwaith gwleidyddol.

Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Wrth ddewis pynciau, ceisiwch gynnwys yr hyn sydd ei angen arnoch, yr hyn rydych chi ei eisiau a'r hyn nad ydych chi'n gwybod eto a oes ei angen nac ychwaith ei eisiau arnoch chi. Cymerwch gyngor ond, hefyd, meiddiwch wneud eich dewisiadau annisgwyl eich hun. Mwynhewch y profiad o ddysgu gan wybod bod yr holl wybodaeth a’r profiad o lwyddo a methu yn ystod eich cyfnod yn Aber yn werthfawr. Peidiwch â bod ofn.