Harry Dennis

harry dennis

Graddiodd Harry Dennis gyda BSc mewn Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn 2014.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber? 

I rywun sydd wrth ei fodd yn treulio amser yn y môr ac yn yr awyr agored, roedd Aberystwyth yn lle anhygoel i fod. Fy atgofion gorau yw dilyn tonnau stormydd i fyny ac i lawr arfordir Ceredigion yn chwilio am ewyn.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich gyrfa erbyn heddiw, a faint o gymorth oedd eich gradd o Aberystwyth?

Ar y dechrau, penderfynais barhau gyda gyrfa mewn ymchwil ecoleg forol, ond yn fuan datblygodd fy niddordeb mewn gweithredu ar fygythiad llygredd plastig yn ein cefnforoedd. Yn 2017, symudais i rôl ymchwil, cyfathrebu a pholisi mewn elusen cadwraeth forol flaenllaw yn canolbwyntio ar broblem llygredd plastig, cyn sefydlu’r fenter gymdeithasol Waterhaul  yn 2018. Ei chenhadaeth yw mynd i’r afael â phroblem gêr pysgota a adawyd yn y cefnfor drwy drawsnewid ‘gwastraff’ plastig yn adnodd. Rydym ni’n ailgylchu plastig cefnfor a gafwyd ar arfordir y DU yn gynhyrchion i ysbrydoli pobl i gysylltu â’r cefnfor a’i ddiogelu: ar ffurf ein sbectol haul wedi’u hailgylchu a theclynnau codi sbwriel.

Rwyf i wastad wedi bod yn angerddol dros gyfuno fy niddordebau mentergarwch gyda fy ymchwil academaidd yn yr amgylchedd morol. Helpodd Aberystwyth fi i roi hyn ar waith - nid yn unig drwy ddysgu sgiliau ymchwil ond hefyd drwy raglenni entrepreneuriaeth fel cystadleuaeth Inventerprise y bûm i’n rhan ohoni.

Pa gyngor sydd gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi heddiw?

Penderfynwch pa agwedd o’ch maes dydd o ddiddordeb i chi, sut mae am ddatblygu yn y dyfodol, a gweithiwch arni! A gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y rhwydwaith anhygoel o gymorth a chysylltiadau sydd ar flaen eich bysedd yn y Brifysgol (dim ond pan na fydd ar gael i chi bellach y byddwch chi’n sylweddoli pa mor werthfawr yw hwn!).