Geoff Richards

Graddiodd Geoff Richards mewn Imiwnfioleg a Chelloedd yn y Gwyddorau Biolegol yn 1990, gan ennill MSc mewn Microsgopeg Electron Biolegol yn 1991. Yn ddiweddarach, enillodd ddoethuriaeth o’r Swistir ar Adlyniad Celloedd i Fewnblannu Arwynebau yn 1997. Mae Geoff bellach yn Gyfarwyddwr un o brif sefydliadau ymchwil y byd mewn orthopaedeg yn Davos, y Swistir.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Roeddwn wrth fy modd â fy nghwrs, un o’r rhai mwyaf dwys o ran darlithoedd a sesiynau ymarferol, ond roedd hynny’n wych i mi. Roedd y darlithwyr a’r cynorthwywyr technegol yn y sesiynau ymarferol yn athrawon go iawn oedd am weld y myfyrwyr yn dysgu ac yn mwynhau eu cyrsiau. Roeddent yn gofalu amdanom ac wir yn ysgogol i helpu fy ngyrfa. Rwy’n dal i fod yn ffrindiau agos gyda fy mentor trwy gydol fy amser yn y brifysgol, sef Dr Iolo ap Gwynn, biolegydd celloedd a oedd yn rhedeg yr uned microsgopeg electron biolegol. Roedd gennyf fywyd cymdeithasol gwych yn Aber ac yn aelod o lawer o glybiau, o rygbi, i hoci cae Bioleg a sboncen a hwylfyrddio. Cefais y pleser hefyd i chwarae i dref Aberystwyth (ail dîm) am dymor. Ynghyd â hyn, gweithiais i’r tîm diogelwch yn undeb y myfyrwyr ac mi es gydag aelodau’r tîm i fynd â chyflenwadau meddygol i Rwmania yn 1990 ar ôl y chwyldro yno. Bûm yn byw ym Mhantycelyn, yng Nghwrt Mawr ac wedyn uwchben tafarn y Mill yn y dref, gan felly gael blas ar lawer o ddiwylliannau tra oeddwn yno (gan fod Cwrt Mawr yn llawn Malaysiaid a phobl o Irac, Israel a diwylliannau eraill pan oeddwn i yno heb broblemau). Mae gen i lawer o ffrindiau o Aber ac rwyf yn dal mewn cysylltiad agos â nhw (ar hyn o bryd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae hynny’n gweithio).

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Mae’n annhebygol iawn y byddwn lle rydw i nawr heblaw am Aber. Roedd fy ngradd a fy ngradd meistr arbenigol wir wedi fy ngosod ar lwybr unigryw, gan fynd o ris gwaelod sefydliad ymchwil blaenllaw fel ymgeisydd PhD i fod yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos. Dyma brif sefydliad ymchwil orthopedig y byd, ac yn gartref i 100 o wyddonwyr sy’n cynnal ymchwil arloesol mewn meddygaeth adfywiol, peirianneg meinwe, bioddeunyddiau a gwyddoniaeth mewnblannu ers 2009. Rwyf wedi gweithio â Dr Iolo ap Gwynn ar sawl prosiect gwyddonol ac ers fy noethuriaeth rwyf wedi derbyn nifer o fyfyrwyr o Aber a oedd wedi astudio am eu gradd Meistr neu ddoethuriaeth drwy Aber (10 meistr a 5 doethur) hyd nes i Dr Iolo ap Gwynn ymddeol. Gellid dadlau fod Iolo a minnau wedi sefydlu’r cyfnodolyn cyntaf yn y byd i fod yn fynediad agored ac ar-lein yn unig (ecmjournal.org) a dechrau adolygu agored gan gymheiriaid (sydd ill dau bellach yn safonol yn y byd cyhoeddi), ond rydym hefyd wedi cerdded mynyddoedd gyda’n gilydd yn y Swistir ac yng Nghymru pan fyddaf yno. Mae hyn yn helpu i fy nghadw’n agos iawn at Aber a Chymru. Roedd fy noethuriaeth trwy Aber (a nifer o’r rhai eraill yr wyf wedi’u rhedeg trwy Aber) wedi fy helpu i sicrhau gwelliannau mawr i ddylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch sy’n sefydlogi toriadau i esgyrn, gan arwain at ganlyniadau clinigol gwell i gleifion ledled y byd. Roedd fy ngradd yn Aber wedi adeiladu ar flynyddoedd pleserus yn yr ysgol yn Llanfyllin, Powys a dyma rai o’r colofnau sy’n sail i fy ngwaith a fy ngyrfa.

Pa gyngor sydd gennych i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs nawr?

Mwynhewch eich cwrs, does dim rhaid i chi fod â nod clir mewn bywyd – doedd gen i ddim, ond fe dyfodd yn naturiol o’r hyn roeddwn yn ei fwynhau, sef gwyddoniaeth a gwaith tîm drwy glybiau’r Brifysgol. Mae’r brifysgol yn amser da i ganfod eich gwerthoedd mewn bywyd sy’n aros gyda chi am byth, er eich bod yn debygol o fod newydd adael cartref am y tro cyntaf ac yn gorfod bod yn gyfrifol amdanoch eich hun. Ewch i’ch holl ddarlithoedd, gwrandewch ar eich addysgwyr a pharchwch nhw. Y tu allan i’ch darlithoedd yn eich amser rhydd, mwynhewch eich amser yn Aber – byddwch yn rhan o glybiau’r Brifysgol a gwirfoddolwch i’w helpu (o ran rhoi a chymryd). Mwynhewch y cefn gwlad hyfryd sydd yng nghyffiniau Aber – o’r Borth gerllaw y gallwch gerdded neu feicio iddo, hyd at Gader Idris, y Bala a thu hwnt. Mae’r cefn gwlad o gwmpas Aber yn rhywbeth y byddwch yn ei gofio am byth. Ystyriwch aros dros yr haf rhywbryd ac ymwneud â phobl y dref, roeddwn i wrth fy modd â’r hafau yno tuag at ddiwedd fy ngradd ac yn ystod fy ngradd meistr. Mae gan Aber gymaint i’w gynnig.