Gareth Lanagan

Mae Gareth ar hyn o bryd yn Rheolwr Safon Uwch yng Ngoleg Meirion Dwyfor ac wedi symud i'r swydd hon ar ôl bod yn athro mathemateg.

"Roedd Aber yn lleolioad hyfryd ac wedi cael y cydbwysedd gorau rhwng gweithio'n galed a chwarae'n galed.  Roedd y gefnogaeth gan staff yn rhoi ymdeimlad o deulu i'r lle.  Roedd rhywun wrth law i helpu.  Dydw i ddim yn credu y byddwn wedi derbyn y gefnogaeth fugeiliol neu academaidd mewn unrhyw sefydliad arall.  Hefyd, roedd y profiadau chwaraeon yn anhygoel ac roeddem bob amser yn gwneud mwy na thynnu'n pwysau!"