Catherine Bishop

Astudiodd Catherine Bishop am radd MPhil mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber. Enillodd Fedal Arian yn y Gemau Olympaidd yn Athen 2004 yn rhwyfo pr. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y Swyddfa Dramor fel Dirprwy Bennaeth Uned Sefydlogi Llywodraeth y DU.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Troeon gwyntog ar hyd yr arfordir, a seminarau Gwleidyddiaeth Ryngwladol heriol (yn enwedig rhai dan arweiniad yr Athro Steve Smith oedd yn bennaeth adran ar y pryd).

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich Gradd o Aberystwyth?

Gwnaeth fy nghyfnod yn Aber i mi feddwl yn galed am y ffordd mae materion y byd yn gweithio, a rhoddodd bersbectif rhyngwladol trylwyr i mi ar ddigwyddiadau byd-eang. Ar l Aber, lle’r oeddwn i’n gynorthwyydd ymchwil rhan amser (yn edrych gyda’r Athro Howard Williams ar ddamcaniaeth a digwyddiadau gwleidyddol Ailuno’r Almaen) ac yn fyfyriwr MPhil mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, parhaodd fy astudiaethau a fy niddordeb yn Ailuno’r Almaen, yn Adran Almaeneg Prifysgol Reading lle gwnes i PhD ar ‘Themu’r 'Wende' (ailuno) mewn llenyddiaeth 1990-1995'. Parhaodd fy ngyrfa rwyfo ryngwladol hefyd, gan gystadlu yng ngemau Olympaidd Atlanta, Sydney ac Athen lle’r enillais i fedal arian. Ar l fy ngradd PhD, ymunais i’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad ac rwyf i wedi gweithio mewn meysydd hynod o ddifyr a chael dau leoliad rhyfeddol o ddiddorol a heriol yn Sarajevo, Bosnia & Herzegovina, a Basra, Iraq. Gyda chyfnodau’n gweithio ar faterion yr UE hefyd, rwyf i wedi datblygu arbenigedd o fewn y llywodraeth ar faterion yn ymwneud gwrthdaro, a fi ar hyn o bryd yw Dirprwy Bennaeth Uned Sefydlogi Llywodraeth y DU, lle’r ydyn ni’n cefnogi ac yn cyflenwi arbenigedd sifilaidd i amgylcheddau anodd a gelyniaethus, yn bennaf Talaith Helmand yn Afghanistan, ond hefyd Kosovo, Sudan, Gwladwriaeth Ddemocrataidd y Congo ac amgylcheddau sefydlogi eraill. Ymysg yr arbenigwyr mae gweision sifil ac eraill sy’n rhan o gronfa ddata a reolir yn arbennig o bobl ag arbenigedd penodol ar gyfer llywodraeth y DU gyda sgiliau mewn meysydd fel llywodraethu, cyfraith a chyfiawnder, seilwaith a chyfathrebu strategol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn fyd hynod o ddifyr ac un sy’n newid yn gyflym - heriwch eich hun a’ch darlithwyr i ofyn y cwestiynau anodd a dod i ddeall y gwir broblemau, sy’n aml yn wahanol i’r hyn roeddech chi’n ei feddwl i ddechrau. Mae llywodraethau a chyrff anllywodraethol yn mynd i’r afael yn barhaus materion rhyngwladol ac yn gwneud llawer o gamgymeriadau sydd yn weladwy’n fyd-eang - felly mae llawer i ddysgu ohono, a llawer o le i gael meddwl newydd ac agweddau newydd i wella’r ffordd mae sefydliadau o gymdeithas sifil hyd at lywodraethau’n gweithredu yn y dyfodol.