Benjamin Blevins

Graddiodd Ben o Aber yn 2009 gyda MSc(Econ) mewn Terfysgaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Bellach mae’n gweithio i gorff anllywodraethol Americanaidd yn Liberia.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?

Roedd Aber yn gyfnod o ysgogi deallusol, her academaidd a chreu perthynas rhwng athrawon a chyfoedion. Mae’n wir nad oedd y tywydd bob amser yn braf, ond mae hynny hefyd yn cadw eich ffocws ar y gwaith dan sylw. A ddwy flynedd yn ddiweddarach, fy ffrindiau yn Aber yw rhai o fy ffrindiau gorau ac agosaf o hyd. Anferth o brofiad!

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa a sut mae eich gradd Aberystwyth wedi helpu?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i gorff anllywodraethol Americanaidd yn Liberia yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd a chymorth cynhaliaeth. Fel myfyriwr Astudiaethau Diogelwch Critigol, rwy’n teimlo’n fwy abl i ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i sefyllfaoedd heriol boed hynny’n golygu gweithio ar drafodaethau polisi ym Mrwsel neu ffermwyr yn y maes yn Liberia.

Pa gyngor fyddai gennych chi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Gallech gymharu’r flwyddyn yn Aber â ‘rhedfa’ sy’n rhoi’r momentwm gorau i lansio eich gyrfa. Felly byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n astudio gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol i fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael, a gwthio ymhell y tu hwnt i ffiniau eich gorwel deallusol eich hun.