Yr Athro Mike Pearson (1950-2022)

Mike Pearson

Bu farw’r Athro Emeritws Mike Pearson ddydd Mercher 25 Mai. Yma mae’r Athro Simon Banham, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyda chymorth ei gydweithwyr Dr Margaret Ames a Dr Andrew Filmer yn talu teyrnged i’r cynhyrchwr theatr mawr ei barch.

Roedd Mike yn ffrind, yn gydweithiwr, yn athro ysbrydoledig, ac artist theatr, a chafodd ei bresenoldeb, ei waith a'i syniadau effaith ddofn ar yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Mae'n gadael gwaddol enfawr, ac mae'r newyddion am ei farwolaeth wedi atseinio ar draws y byd Astudiaethau Theatr a Pherfformio. Cafodd nifer fawr o bobl y fraint o fwynhau ei ddysg a'i gwmni da.

Astudiodd Mike ar gyfer BA mewn Archaeoleg ac yna MA mewn Addysg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Rhwng 1972 a 1997, bu’n gweithio fel gwneuthurwr theatr proffesiynol gyda phrosiect celfyddydau cymunedol Transitions Trust (1971-72) a Theatr RAT ac yna fel cyd-gyfarwyddwr Theatr Labordy Caerdydd (1974-80). Gyda Lis Hughes Jones, cydsefydlodd Mike y cwmni theatr o fri rhyngwladol Brith Gof yn 1981 a bu'n gyd-gyfarwyddwr artistig arno tan 1997. 

Ym 1997 ymunodd Mike â'r Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth fel darlithydd, gan sefydlu’r radd Astudiaethau Perfformio israddedig y daeth yr adran yn enwog amdani. Gwta ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1999, daeth yn Athro mewn Astudiaethau Perfformio. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, dyfarnwyd Doethuriaeth i Mike (ar sail cyhoeddiadau) ar 'Convergences of Performance and Archaeology' gan Brifysgol Cymru yn 2006, a rhwng 2012-14, bu’n un o Brif Gymrodorion Ymchwil Leverhulme. Bu Mike yn allweddol wrth arwain a chreu'r amgylchedd ymchwil ar gyfer yr adran tan ei ymddeoliad yn 2014.

Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd Mike i greu theatr fel artist unigol a hefyd â Pearson/Brookes, National Theatre Wales, a chyda'r grŵp o uwch berfformwyr a sefydlodd, Good News From The Future.

Newidiodd gwaith theatr Mike a'i ysgrifau academaidd y theatr yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac nid yw’n or-ddweud bod ei waith wedi dylanwadu ar genhedlaeth o ymarferwyr yn y DU a thu hwnt.

Roedd y ffaith bod Mike yn hyrwyddo ymarfer fel ymchwil yn paratoi'r ffordd i lawer o ymarferwyr ei ddilyn i'r academi, gan gyfoethogi'r amgylchedd ymchwil a meithrin sgyrsiau ar draws disgyblaethau. Mae'r teyrngedau niferus gan ymarferwyr ac academyddion ledled y byd yn tystio i'w ddylanwad ac, yr un mor bwysig, ei haelioni fel cydweithredwr a chydweithiwr. Ategir y teimladau hyn gan genedlaethau o fyfyrwyr a ddaeth i Aberystwyth yn benodol i gael eu haddysgu ganddo ac y mae eu teyrngedau yn dathlu sut y lluniodd eu dealltwriaeth o'r hyn y gallai theatr fod.

Mae ein meddyliau gyda gwraig Mike, Heike, yn ystod y cyfnod trist iawn hwn.