David Vernon Morgan (1941-2017)

Daeth yr Athro Vernon Morgan, a gafodd ei fagu yn Pwll, ger Llanelli, yn un o beirianyddion electronig mwyaf nodedig Cymru ac yn ysgolhaig ysbrydoledig. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil roedd ffiseg a thechnoleg deunyddiau lled-ddargludyddion, dyfeisiau a chylchedau integredig.

Enillodd raddau BSc ac MSc Ffiseg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, PhD yng Ngholeg Gonville a Caius a Labordy Cavendish (ym Mhrifysgol Caergrawnt), a DSc (Eng) ym Mhrifysgol Leeds; bu’n dal Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru yn Labordy Cavendish (1966-68), a Chymrodoriaeth Harwell (1968-70).

Yn 1970, ymunodd Vernon â’r gyfadran ym Mhrifysgol Leeds gan aros yno tan iddo ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 1985. Roedd yn athro ymchwil nodedig yng Nghaerdydd ac yn Gyn-Bennaeth yr Ysgol Beirianneg (1992-2002), gan feithrin ei henw da fel Ysgol o fri rhyngwladol oherwydd safon ei gwaith ymchwil.

Mae’r anrhydeddau a gafodd yn ystod ei yrfa yn cynnwys Cymrodoriaeth o’r Academi Frenhinol Peirianneg (1996), Cymrawd ac Is-Lywydd y Sefydliad Ffiseg (1992-96), Cymrawd Sefydliad y Ddinas a’r Urddau (1998), derbyn Croes y Babaeth gan y Pab John Paul II am Wasanaeth Nodedig i Addysg Uwch (2004), Cymrawd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), aelod hŷn o’r IEEE (UDA), Athro Nodedig Anrhydeddus Caerdydd (2010) ac un o Gymrodyr cyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2011).

Cyfarfu Vernon â’i wraig Jean yn Aberystwyth a daeth yn Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol yn 2006.