Susan Price OBE (1946-2013)

Roedd Sue Price yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1965 a 1968 yn yr Adran Astudiaethau Cymdeithasol a oedd newydd ei sefydlu. Chwaraeodd ran lawn ym mywyd y Brifysgol, gan ei bod hi’n aelod o Dîm Pêl-rwyd y Brifysgol a’r Criw Rhwyfo Merched. Roedd yn aelod o gast Waiting for Godot, sef ymgais Aber ar gyfer y gystadleuaeth ddrama ryng-golegol. Roedd hi’n ferch hardd iawn yn ei dydd a bu’n Frenhines Rag ac yn fodel yn rhifyn arbennig y Prifysgolion o gylchgrawn ‘Honey’!

Ar ôl graddio mewn Cymdeithaseg ac Economeg yn 1968, bu Sue yn gweithio mewn awdurdodau lleol yn Swydd Gaerlŷr, gan ddechrau fel hyfforddai graddedig Cynllunydd Tref a chan orffen, yn gynnar yn y 1980au, fel Swyddog Cynllunio Maestrefol Hinckley a Bosworth – y fenyw gyntaf i ddal y swydd hon.

Rhwng 1985 a 2006 bu’n gweithio yn ne Cymru ar gyfer elusen amgylcheddol o’r enw Groundwork. Sefydlodd Groundwork yng Nghymru ac arwain ei datblygiad o’r Ymddiriedolaeth gyntaf ym Merthyr Tudful, i 4 ymddiriedolaeth a sefydliad cenedlaethol yn gwasanaethu tua 65% o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Pan ymddeolodd, roedd gan yr elusen tua 180 o staff. Mae pob un o’r Ymddiriedolaethau yn gweithredu o hyd. Dyfarnwyd iddi wobr ‘Menyw’r Flwyddyn yng Nghymru’ yn 1996 ac OBE yn 2006 am ei gwaith amgylcheddol.

Ar ôl ymddeol, bu Sue yn aelod o Fwrdd Cynnal Cymru, mudiad newydd bychan yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yng Nghymru.  Yn 2008, symudodd hi a’i gŵr, Jim Cameron, i Dumfries, sef ei dref enedigol ef. Yno, mireinodd ei sgiliau cynllunio a rheoli prosiect wrth adnewyddu ac ymestyn eu cartref newydd. Yn anffodus, bu farw o ganser ym mis Ionawr 2013, wrth i’r tŷ gael ei gwblhau. Mae’n gadael Jim a’i llysblant Lucy a Tom.

Deborah Owers