Russell Trood (1948-2017)

Bu farw Russell Trood, un o gyn-fyfyrwyr mwyaf nodedig Prifysgol Aberystwyth. Roedd Russell yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Awstralia, yn Seneddwr dros Queensland, ac yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Awstralia. Bu farw yn dilyn brwydr hir yn erbyn math arbennig o ffyrnig a phrin iawn o ganser thyroid.

Mae’n dyst i fri Russell fod Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull, o fewn 24 awr i’w farwolaeth, wedi cyhoeddi teyrnged yn disgrifio Russell fel ‘cyfaill da, mentor hael a chyngor doeth’. Aeth Turnbull yn ei flaen i ddweud bod Russell yn ‘un o feddylwyr polisi tramor gorau Awstralia, a oedd yn cael ei barchu a’i edmygu gan bawb ym myd gwleidyddiaeth. Gwasanaethodd Awstralia fel ysgolhaig, diplomydd a Seneddwr.’ Disgrifiodd y Prif Weinidog Russell fel ‘dyn gobeithiol, ymroddedig ac, yn anad dim, yn rhadlon bob amser. Mae cysylltiadau Awstralia â’n cymdogion yn Asia a’r Môr Tawel, a’n dealltwriaeth ohonynt, wedi’u cyfoethogi gan ymdrechion diflino Russell dros lawer o flynyddoedd.’

Yn ei ugeiniau hwyr, penderfynodd Russell roi’r gorau i yrfa addawol, a buddiol heb os, fel cyfreithiwr yn Sydney, i astudio ar gyfer gradd Meistr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel yr oedd bryd hynny. Roedd ein rhaglen Astudiaethau Strategol bryd hynny bron yn ddeng mlwydd oed, ac yn arwain yn y maes.  Daeth Russell i Aber yn 1976, gyda’i wraig Dale, yn argyhoeddedig fod gwleidyddiaeth ymhlith cenhedloedd yn bwnc mwy cyfareddol na’r Gyfraith, ac yn bennaf oherwydd iddo, fel y byddai’n ei ddweud yn aml, ddarllen llyfr, Contemporary Strategy. Theories and Policies, a ysgrifennwyd gan dri aelod o’r Adran a chyn-fyfyriwr.

Ar ôl cwblhau ei radd yn Aber, aeth Russell i Brifysgol Dalhousie yng Nghanada, i weithio ar ddoethuriaeth yn ymchwilio i bwnc dadleuol, sef rôl Awstralia yn Rhyfel Fietnam. Ar ôl gorffen ei ddoethuriaeth, dychwelodd ef a Dale – a’u mab newydd James – i Awstralia, yn gyntaf i Brifysgol Genedlaethol Awstralia (ANU) yng Nghanberra, ac yna yn 1991 i Brifysgol Griffith yn Brisbane, lle ganwyd eu merch Phoebe.

Tan 2003 roedd Russell yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudio Cysylltiadau Awstralia-Asia ym Mhrifysgol Griffith. Yn ddiweddarach, ar ôl cyfnod yn y Senedd, dychwelodd i Griffith yn 2015 yn Gyfarwyddwr Sefydliad Asia Griffith. Daeth yn Athro Emeritws ar ôl gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd bod ei iechyd yn dirywio. Cyfeiriodd teyrnged swyddogol Prifysgol Griffith at flynyddoedd gwasanaeth Russell, ac at ei gyfraniad dysgu hir a sylweddol, gan ddiolch iddo am ‘gyfraniad eithriadol tuag at godi proffil arbenigedd ymchwil Griffith mewn astudiaethau Asiaidd a chysylltiadau rhyngwladol.’ Yn 2016, i gydnabod ei gyfraniad hir i gysylltiadau rhyngwladol Awstralia, penodwyd Russell yn Gymrawd Sefydliad Materion Rhyngwladol Awstralia – ei anrhydedd mwyaf.

Ers yr adeg pan oeddwn yn ei ddysgu ar ei gwrs Meistr yn Aber, byddai Russell bob amser yn pwysleisio’r angen ar i bobl Awstralia weld eu gwlad yn rhan o Asia a’r Môr Tawel, a rhoi’r gorau i feddwl am eu hunain fel cadarnle gwyn arall yr hen ymerodraeth (y Deyrnas Unedig) neu fel gwn arall archbŵer UDA. Byddai’n hoffi dyfynnu’n ôl imi (a’i fyfyrwyr) y sylw roeddwn innau wedi ei gynnig iddo, ar ôl bod ar drên maestrefol yn Brisbane am y tro cyntaf, fod proffil fy nghyd-deithwyr yn amlwg yn gymysg, o ran cenedl, a ddim o gwbl fel y darlun byd-eang a oedd yn cael ei ddarlledu bryd hynny gan ddelwedd Awstralia o’i hun drwy’r opera sebon boblogaidd ar y teledu, Neighbours. Roedd Russell yn hoff o’r sylw gennyf i, fel rhywun o’r tu allan, oherwydd credai bob amser mewn trafod ‘gwirioneddau’ fel y’u gwelai, ac iddo ef roedd gwreiddiau’r Awstralia newydd yn bennaf yn rhwydweithiau Asia, ac nid rhwydweithiau’r Gorllewin.

 Bu’n uchelgais ers tro byd iddo gael mynd i fyd gwleidyddiaeth, ac enillodd Russell sedd fel un o Seneddwyr Queensland yn 2005. Yn ystod ei gyfnod yn y senedd, enillodd enw da iddo’i hun am fod yn ‘weithgar iawn’ ar nifer o bwyllgorau seneddol, yn anad dim fel Cadeirydd Pwyllgor y Senedd ar Faterion Tramor, Amddiffyn a Masnach. Wrth sôn am gyfnod Russell yn y Senedd, dywedodd yr Anrhydeddus George Brandis Cwnsler y Frenhines a Thwrnai Cyffredinol Awstralia, i Russell ‘ddod â gwybodaeth ddihafal am gysylltiadau rhyngwladol, yn enwedig materion Dwyrain Asia, i’r Senedd. Roedd ei gyfraniadau i’r Senedd bob amser yn hyddysg, yn wybodus iawn ac yn effeithiol.’  Aeth Brandis yn ei flaen i bwysleisio, fel y gwnaeth eraill wrth dalu teyrnged i waith Russell, iddo fod yn ‘Seneddwr colegol iawn, ac yn ddyn caredig, hynaws a weithiai’n galed. Roedd yn batrwm o gwrteisi. Yn naturiol, roedd yn boblogaidd iawn ymhlith ei gyd-weithwyr yn y Glymblaid ac roedd aelodau ym mhob rhan o’r siambr yn ei hoffi a’i barchu’n fawr.’  Nododd Brandis, ‘Ar wahân i’w wybodaeth arbenigol am faterion rhyngwladol…gwnaeth [Russell] gyfraniad sylweddol i feysydd polisi eraill, yn cynnwys addysg uwch a materion rhanbarthol.’ Ymhlith sylwadau clo prif swyddog y gyfraith Awstralia roedd y geiriau hyn: ‘Mae pob un ohonom wedi colli cyfaill gwerthfawr a chyd-weithiwr uchel ei barch. Rwyf innau wedi colli cyfaill y byddwn yn ymddiried ynddo ac un o’m cyfeillion gwleidyddol agosaf.   Bydd pob un ohonom ar ein hennill o fod wedi adnabod Russell Trood ac mae Awstralia wedi elwa, er gwell o’i wasanaeth cyhoeddus.’

Ar ôl colli ei sedd yn y Senedd – mae gwleidyddiaeth Queensland yn enwog am fod yn ymddinistriol – penododd Julia Gillard (cyn Brif Weinidog Awstralia a anwyd yn y Barri) Russell fel Cennad Arbennig y Prif Weinidog yn Nwyrain Ewrop. Golygai hyn deithio’n helaeth rhwng prifddinasoedd ran o’r byd a ddiffiniwyd yn amwys ac yn helaeth fel ‘Dwyrain Ewrop’, gan geisio hyrwyddo cais Awstralia – a lwyddodd yn y pen draw – am sedd dros dro ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Dros y blynyddoedd, cyflawnodd Russell Trood amryw swyddogaethau ym mywyd cyhoeddus Awstralia. Yn ogystal â’i waith gwleidyddol ar hyd a lled Queensland (sy’n saith gwaith yn fwy na Phrydain, â phoblogaeth o ryw 4.6 miliwn), roedd yn aelod o Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Llywydd Cymdeithas Awstralia y Cenhedloedd Unedig, a bu’n dal swyddi yn Sefydliad Polisi Strategol Awstralia, y Cyngor Materion Tramor, Sefydliad Awstralia-Indonesia, a Chomisiwn Fulbright Awstralia-America. Bu’n Gymrawd Gwadd yn Sefydliad Lowy ar gyfer Polisi Rhyngwladol (melin drafod yn Sydney) ac yn Athro Cynorthwyol yng Nghanolfan Astudiaethau’r Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Sydney.

Byddai pawb a oedd yn adnabod Russell yn tystio i gryfder ei gymeriad a’i synnwyr o chwarae teg bob amser; byddai pawb yn cytuno ei fod yn ŵr bonheddig’. Mae rhai yn tystio i’r effaith ddofn a gafodd ar eu bywydau. O blith y rhain, siaradodd Adam Kamaradt-Scott, cyn-fyfyriwr PhD yn Aber sydd bellach yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Sydney, dros lawer ohonynt. Wrth ysgrifennu am ei gyfnod yn un o fyfyrwyr Russell ac yn un o’i gymhorthiaid gwleidyddol, dywedodd Adam ‘Yn ei faes arbenigedd, roedd Russell yn rym natur’; a chan siarad fel aelod o ‘Dîm Trood’ yng ngwleidyddiaeth Queensland, ychwanegodd mai ‘gweithio i Russell oedd y swydd orau y gallwn fod wedi’i gwneud….Roedd yn bennaeth ysbrydoledig, anhygoel.’

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa a oedd dan ei sang i ddathlu bywyd Russell yn Brisbane. Darllenwyd fy nheyrnged innau gan yr Athro Tim Dunne, Deon Gweithredol ym Mhrifysgol Queensland a chyn-aelod o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yma am sawl blwyddyn. Agorais gyda’r geiriau hyn: ‘Cyn gynted ag y rhoddais y gorau i ystyried y Russell ifanc yn un o’m myfyrwyr, dechreuais ei ystyried yn un o fy ffrindiau gorau. Parhaodd y cyfeillgarwch am bedwar degawd, er gwaetha’r ffaith ein bod wedi ein gwahanu am lawer o’r amser hwn gan hanner y byd, ac y byddai blynyddoedd yn mynd heibio heb inni gwrdd. Roedd Russell yn athrylith yn ei deyrngarwch: am ei ddenu, ac am ei roi.’

 Yn ystod ei fisoedd olaf, byddai Russell yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i siarad – ‘ddim yn wych i rywun yn ein proffesiwn ni’, meddai’n gellweirus mewn e-bost, ar adeg pan obeithiai o hyd y byddai’n dychwelyd i’w waith. Ni wnaeth ei gyflwr ei rwystro rhag ymwneud â’r pethau roedd yn ymddiddori ynddynt: anfonodd e-bost mewn anghrediniaeth ataf am chwalfa tîm rygbi Awstralia yn erbyn Lloegr yn haf 2016; ac roedd yr un mor anghrediniol am yr hyn a ystyriai ef yn gamgymeriad hanesyddol y DU yn pleidleisio o blaid Brexit; uwchlaw popeth, rhybuddiodd am y risgiau peryglus yr esgorid arnynt ped etholid Donald Trump yn yr Unol Daleithiau. Ar union ddiwrnod etholiad yr Unol Daleithiau, fis Tachwedd diwethaf, anfonaf Russell e-bost yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld Trump yn cael ei drechu, er gwaethaf cyfeiriad rhai o’r polau piniwn. ‘Fel arall’, meddai, ‘bydd yn rhaid inni ddiffodd y golau, cau’r drws, gadael yr ystafell, a chwilio am rywle i guddio.’ [Rwy’n ysgrifennu hyn, fisoedd yn ddiweddarach, wrth i Donald Trump a Kim Jong -un herio’i gilydd mewn ffyrdd sy’n awgrymu nad oes gan y naill na’r llall unrhyw synnwyr hanesyddol o sut gall cysylltiadau rhyngwladol ymddatod yn fuan a throi’n drasiedi, nac ychwaith o natur drychinebus yr arfau y mae’r ddau yn eu chwifio.]

Codi pontydd, nid waliau fyddai Russell Trood – ac, yn sicr ni fyddai’n arddel gwleidyddiaeth yr iard chwarae.  Ar adeg o genedlaetholdeb culfrydig a rhithdyb peryglus mewn cysylltiadau rhyngwladol, mae Awstralia a’r byd ehangach wedi colli’r math o wleidydd-ysgolor y mae ar fyd gwleidyddiaeth ei angen ar frys.

Ken Booth FBA