Yr Athro Roy Davies OBE (1932-2018)

Bu farw’r Athro Roy Davies OBE, cyn-wyddonydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a gysylltir â Gorsaf Bridio Planhigion Cymru, yn 85 oed ar ôl brwydr â chlefyd Alzheimer.

Yr Athro Davies oedd y Deon Bioleg ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia yn Norwich a dirprwy gyfarwyddwr Sefydliad John Innes. Teimlai’n angerddol dros addysgu gwyddoniaeth a bu’n gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Thorpe St Andrew a llywodraethwr Ysgol Norwich am flynyddoedd lawer.

Ganed yr Athro Davies yn 1932 yn y tŷ ysgol yng Nglynarthen, Sir Aberteifi lle roedd ei dad yn brifathro. Treuliodd wyth mlynedd gyntaf ei fywyd yn siarad ac yn cael ei ddysgu yn Gymraeg. Pan nad oedd yn yr ysgol neu’r capel câi benrhyddid i grwydro’r caeau lleol a helpu ar ffermydd, gan ddatblygu ei gariad oes at amaeth a botaneg.

Yn ddiweddarach, ac yntau bellach wedi dysgu Saesneg, mynychodd ysgolion gramadeg yn Llandysul a Wrecsam cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth i astudio botaneg amaethyddol. Enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf ac yna ddoethuriaeth o dan yr Athro P.T. Thomas. Yn ystod ei gyfnod yn Aber, cyfarfu’r Athro Davies â’i wraig, sef Frances Wills bryd hynny, gan fod yn briod â hi am 60 mlynedd. Symudodd i sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Harwell, ger Rhydychen, i weithio ar effeithiau ymbelydredd ar gelloedd planhigion. Yn dilyn blwyddyn yn yr UDA fel rhan o dîm rhyngwladol yn Labordy Cenedlaethol Brookhaven, dychwelodd yr Athro Davies i Harwell, cyn symud i Brifysgol Dwyrain Anglia (UEA) a Sefydliad John Innes yn Norwich.

Yn ystod ei chwarter canrif yn UEA, yr Athro Davies oedd y Deon Bioleg am wyth mlynedd ac yn chwaraewr allweddol mewn trafodaethau ar leoli ysbyty newydd yn ymyl Canolfan John Innes. Fel dirprwy gyfarwyddwr Sefydliad John Innes, a chyfarwyddwr dros dro am ddwy flynedd, roedd yn ganolog wrth greu canolfan gynadledda newydd sydd bellach yn cael ei defnyddio’n helaeth gan y gymuned leol yn ogystal â gwyddonwyr.

Dwy ffordd a ddefnyddiodd yr Athro Davies drosglwyddo ei angerdd dros wyddoniaeth oedd drwy gyfrwng darllediadau teledu a radio lleol, tra bod ei ymchwil academaidd i geneteg planhigion wedi mynd ag ef i bedwar ban byd. Bu’n darlithio yng ngogledd, de a chanol America yn ogystal ag yn India, Iran, Twrci ac Ewrop. Ym Mrasil, rhoddodd gyngor ymchwil a darlith ar ran y Gymdeithas Frenhinol, ac ym Mwlgaria bu’n arwain grŵp o ddiwydianwyr ar ran y llywodraeth. Roedd ymweliadau eraill yn cynnwys mynd i Iwerddon ar ran yr OECD, a gweithio yn Nhwrci i’r Cyngor Prydeinig.

Yn ogystal â’i ymchwil yn Norwich, a oedd wedi dechrau drwy ymchwilio i waliau celloedd mewn algâu gwyrdd ac a ddaeth i ben 26 mlynedd yn ddiweddarach trwy gyflwyno genynnau i gromosomau planhigion pys, treuliodd yr Athro Davies wyth mlynedd yn golygu Heredity, sef cylchgrawn Cymdeithas Genynnau Prydain. Roedd ar fwrdd golygyddol Mutation Research a Radiation Botany; wedi golygu tri John Innes Symposia, ac wedi ysgrifennu ar geneteg. Bu’n aelod o nifer o bwyllgorau’r llywodraeth ar amaethyddiaeth ac ar gynghorau llywodraethu pedwar sefydliad ymchwil gwyddonol.

Ar ôl ymddeol yn 1994 fel Athro Geneteg Gymhwysol a Phennaeth Geneteg Gymhwysol yng Nghanolfan John Innes, gwnaed Roy Davies yr Athro Emeritws ac yn OBE.

Wedi ymddeol, câi’r Athro Davies foddhad mawr yn ei berthynas ag ysgolion Thorpe St Andrew a Norwich. Rhoddodd amser i’w bedwar o blant, ei 11 o wyrion a Fran ei wraig, a bu’n teithio’n helaeth er pleser. Roedd canu yng Nghôr Meibion y Mileniwm Norfolk a Chôr Plwyfi Eaton wedi mynd ag ef yn ôl i’w wreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Treuliai wyliau’r haf yn Aber-porth gan ymweld â’i frawd, y Parch J.O. Davies, ficer Llechryd sydd bellach wedi ymddeol.

Bu farw’r Athro Davies ym mis Mawrth 2018, a’i wraig Fran yn dal yn fyw.