Yr Athro Ritchie Ovendale (1944-2022)

ritchieovendale

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth yr Athro Richard Ovendale, cyn aelod o staff yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Ritchie yn 1944 Pretoria, De Affrica, yn  fab i Richard a Jean Rainnie (Christie) Ovendale.

Ymunodd â’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol fel darlithydd yn 1968 ar ôl astudio yn ei wlad enedigol De Affrica (BA & MA Natal), Canada (MA McMaster) a Rhydychen (DPhil New College). Cafodd ei ysgogi'n rhannol i adael De Affrica gan y system apartheid, a helpodd i lunio ei ymwybyddiaeth wleidyddol.

Roedd Ritchie yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn hanesydd medrus ac yn awdur toreithiog. Byddai’n cynhyrchu llyfrau ac erthyglau di-ri, yn ysgrifennu adolygiadau i’r Cambrian News, ac yn dal i ddod o hyd i amser i dreulio’r rhan fwyaf o’r haf yn crwydro copaon yr Andes neu jyngl de-ddwyrain Asia.

Roedd yn ysgolhaig ymroddedig a osodai safonau academaidd uchel iawn i’w hunan. Er bod gormod i'w rhestru yma (byddai llyfryddiaeth gynhwysfawr yn ganoedd o eitemau), ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf adnabyddus mae The Origins of the Arab-Israel Wars (Longman, 1984), The English-speaking Alliance: Britain, the US, the Dominions and the Cold War Rhyfel Oer 1945 - 1951 (Harper Collins, 1985), a Modern Middle East: an introductory and international history (Pearson, 2014). Penodwyd Ritchie i Gadair Bersonol ym 1994.

Sefydlodd ei hun fel athro effeithiol o fewn yr adran, gan gyflwyno cyrsiau newydd ar Bolisi Tramor yr Unol Daleithiau a Phrydain, y Berthynas Eingl-Americanaidd, a'r Dwyrain Canol. Wrth draddodi’r rhain, byddai’n drylwyr ei addysgu, gan osod safonau’r un mor uchel i’w fyfyrwyr, ac roedd ganddo allu aruthrol i ennyn eu diddordeb. Roedd yn boblogaidd iawn gyda'i fyfyrwyr a daeth llawer i fod yn ffrindiau oes.

Yn ogystal, ffurfiodd Ritchie gysylltiadau cryf gydag Ysgol Gelf y Brifysgol, a byddai’n ymuno gyda nhw ar deithiau blynyddol y myfyrwyr i orielau Ewrop a thu hwnt. Fe'i cofir yn annwyl am ei ymdrechion i sefydlu Clwb Ffilmiau yng Nghanolfan y Celfyddydau - rhagflaenydd y rhaglen ffilm bresenol.

Roedd gan Ritchie lawer o ddiddordebau y tu hwnt i fywyd academaidd gan gynnwys teithio’n helaeth, celf, theatr, opera, a chwaraeon (sboncen a nofio). Roedd ganddo gof aruthrol a gallai dreulio a syntheseiddio gwybodaeth ar draws ei ystod o ddiddordebau yn gyflym. Ni fyddai ei bresenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad byth yn ddisylw a byddai’n bywiogi llawer i ddigwyddiad cymdeithasol.

Bu farw Ritchie yn Ysbyty Bronglais ar 31 Awst ar ôl brwydr yn erbyn canser y prostad a chlefyd fasgwlaidd yr ymennydd. Parhaodd ei ddeallusrwydd yn ei ddyddiau olaf.

Mae’n gadael dau frawd iau yn Ne Affrica – Angus a Bruce – a’u teuluoedd.

Tim Davies & Peter King