Richard Morgan Owen (1932-2013)

Ganwyd Morgan yn Llangurig, yng Nghanolbarth Cymru. Ar ddechrau’r 1950au cymerodd swydd weinyddol gyda’r Bwrdd Marchnata Llaeth a threulio dwy flynedd ei Wasanaeth Cenedlaethol yn yr Awyrlu Brenhinol cyn mynd i’r Coleg Normal ym Mangor i hyfforddi’n athro.

Ar ôl iddo briodi ym 1959, penderfynodd Morgan fynd yn ôl i fyd addysg, ac ym mis Medi 1960 aeth i fyny i Brifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio fel myfyriwr hŷn am radd yn y Gyfraith. Aeth ymlaen wedyn i ennill gradd Meistr o Brifysgol Llundain ac fe gymhwysodd fel bar-gyfreithiwr hefyd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel cyfreithiwr academaidd, i ddechrau yn ddarlithydd coleg technegol ac yna’n Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Ngholeg Politechneg Dinas Llundain, sef Prifysgol y Guildhall Llundain yn nes ymlaen. Ar ben ei waith academaidd roedd yn Ynad Heddwch ac yn aelod o Dribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol.

Ar ôl iddo ymddeol parhaodd ei ddiddordeb yn y Gyfraith, yn ogystal â diddordebau academaidd eraill, gan gynnwys y gwyddorau, athroniaeth, hanes, llenyddiaeth, archaeoleg, a nifer o ieithoedd – Llydaweg, Cernyweg, Groeg y Testament Newydd, Groeg Fodern, Eidaleg, a Hwngareg.

Trigodd yn Llundain trwy gydol ei ymddeoliad ond hiraethai’n barhaus am y fferm yn y Canolbarth lle’i magwyd. Roedd yn ddyn caredig ac ystyriol a roddai’n hael i elusennau ac i blant cyfeillion a theulu, ac i ffrindiau a chydnabod.

Bu farw Morgan ar 6 Mai 2013 ac y mae’n gadael dwy ferch, Marion ac Elaine.