Laurence Arthur Thompson (1938-2015)

‌‌Roedd ‌‌Laurie Thompson, a fu farw yn 77 oed, yn gyfieithydd llenyddol eithriadol a thoreithiog. Mwynhaodd hefyd yrfa academaidd nodedig, a dylanwadodd yn fawr ar hybu iaith, llenyddiaeth a diwylliant Swedeg yn y DU.

Ganwyd Laurie yn Efrog yn 1938, ac roedd yn falch iawn o’i wreiddiau dosbarth gweithiol bob amser. Cysodwr oedd ei dad cyn dod yn ddarllenwr proflenni gyda’r Yorkshire Evening Press, a bu ei fam yn pacio losin yn Rowntrees tan iddi briodi. Aeth i Ysgol Ramadeg Nunthorpe, ac roedd yn aelod amlwg o gôr Eglwys Sant Lawrence yn Efrog; roedd ei gariad tuag at gerddoriaeth yn rhywbeth a arhosodd gydag ef gydol ei oes. Roedd hefyd yn hoff iawn o chwaraeon ac yn arbennig o hoff o griced. Ar ôl ei Wasaneth Milwrol, pan gwblhaodd gwrs dwys mewn Rwsieg a chyflawni Dyletswyddau Cudd-wybodaeth Arbennig yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain, aeth i Brifysgol Manceinion – yr aelod cyntaf o’i deulu i fynd i’r brifysgol. Ar ôl ennill gradd mewn Almaeneg, cafodd swydd fel lektor yn y Ganolfan Brydeinig yn Umeå yng ngogledd Sweden, gan ddysgu Saesneg mewn ysgolion a dosbarthiadau nos. Yna daeth yn ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Umeå.

Priododd â Birgitta Åkerstedt yn 1963; ganwyd eu mab Eric yn 1966.

Y flwyddyn ganlynol, symudodd i Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth fel darlithydd mewn Almaeneg a Swedeg. Daeth yn athro ieithoedd gwych oherwydd y profiad a gafodd yn Umeå , ac roedd ei allu i ddod â thestunau llenyddol yn fyw a’u gwneud yn hygyrch i’w fyfyrwyr yn ddiguro. Roedd yn disgwyl i’w israddedigion weithio’n galed, ond fyddai neb yn gweithio’n galetach na Laurie. Byddai llawer o’i fyfyrwyr yn gollwng ochenaid o ryddhad wrth gyflwyno darn o waith ar ddiwedd y dydd, ac yna’n ei dderbyn yn ôl yn y twll colomen ben bore trannoeth, ynghyd â sylwadau treiddgar a defnyddiol, ac awgrymiadau ar gyfer ambell beth arall y gallai ef neu hi fynd ati i’w wneud…

Enillodd PhD yn 1979; pwnc ei draethawd ymchwil oedd gweithiau’r awdur o Sweden Stig Dagerman.

Yn 1983 daeth yn Bennaeth Swedeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr pont Steffan, a dyfarnodd Prifysgol Linköping Ddoethuriaeth Anrhydeddus iddo yn 1986. Bu’n Bennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant rhwng 1991 a 1995. Ymddeolodd yn gynnar yn 1997 oherwydd y bwriad i gau’r Uned Swedeg, ond parhaodd yn ddarlithydd rhan-amser tan 2000.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd Laurie wedi bod wrthi yn datblygu un o’i sgiliau arbennig eraill – cyfieithu. Roedd yn un o’r aelodau a sefydlodd SELTA, Cymdeithas Cyfieithwyr Llenyddol Swedeg-Saesneg; ei nod oedd cefnogi a hyrwyddo cyfieithiadau o’r Swedeg, ac mae’r gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth. Ar ôl i SELTA fabwysiadu’r cyfnodolyn, Swedish Books, a’i ailfrandio yn Swedish Book Review, Laurie oedd y golygydd cyntaf, gan wasanaethu o 1983 tan ddiwedd 2002. Y nod oedd cyrraedd ‘y rhai hynny a chanddynt ddiddordeb proffesiynol mewn llenyddiaeth Swedeg…. a nifer cynyddol o bobl gyffredin a chanddynt ddiddordeb amaturaidd mewn llyfrau Swedeg’. Cyhoeddwyd ynddo ystod eang o gyfieithiadau, erthyglau, adolygiadau, ac annog trafodaeth ar bynciau perthnasol. Yn yr oes cyn cyfrifiaduron, e-bost ac argraffu digidol, roedd yn rhaid gwneud bron pob dim â llaw a Laurie a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith, ochr yn ochr â’i ddyletswyddau academaidd trwm.  Byddai bob amser yn annog cyfieithwyr newydd a mwy profiadol fel ei gilydd, ac mae llawer yn ddyledus iawn iddo. Mae’r Swedish Book Review yn parhau i ffynnu ac roedd Laurie yn cyfrannu’n rheolaidd o hyd; mae’r rhifyn cyfredol yn cynnwys ei gyfieithiad o ddetholiad o gasgliad straeon byrion Aino Trosell, Krimineller.

 

Dyfarnwyd iddo Urdd Arth y Gogledd (Royal Order of the Polar Star) am ei wasanaeth i lenyddiaeth a diwylliant Sweden yn 1992.

 

Ond, fel cyfieithydd nofelau cyfoes y bydd y rhan fwyaf o ddilynwyr straeon ditectif Sgandinafaidd neu ‘Nordic noir’ yn adnabod enw Laurie. Cyhoeddodd ymhell dros hanner cant o weithiau, yn cynnwys llawer o nofelau Wallander Henning Mankell, a llyfrau gan Håkan Nesser, Åsa Larsson ac Åke Edwardson, yn ogystal â Mikael Niemi – mae’r rhestr yn ddi-ben-draw. Roedd wrth ei fodd yn mynd i’r afael â chwarae-ar-eiriau clyfar Nesser, neu dafodiaith anodd Niemi. Roedd yn gallu dal yr un llais yn union ac yn gallu mynd dan groen nofel.  Gweithiodd yn ddiflino tan ei farwolaeth, a gall darllenwyr edrych ymlaen at gyfieithiadau newydd o Nesser a Mankell yn hwyrach eleni. Mewn tro eironig i’w dynged, cyfieithodd hefyd ddyddiaduron cancr Mankell y llynedd.

 

Teithiodd yn helaeth yn Sweden, yr Almaen ac UDA; mwynhaodd yn arbennig harddwch a bywyd gwyllt De Affrica, ond byddai’n cael hyd i lonyddwch a thawelwch yn ei gartref yng ngorllewin Cymru. Ychydig iawn o amynedd oedd ganddo tuag at ‘fywyd trefol modern’ ac roedd hapusaf yn eistedd yn yr ardd â gwydraid o rywbeth oer, yng nghanol yr adar gwylltion a’i gathod annwyl, yn edrych allan dros y dyffryn wrth i’r barcutiaid cochion hedfan uwch ei ben ar ddiwrnod braf o haf. Roedd dathlu Nadolig Swedaidd traddodiadol ar 24 Rhagfyr bob blwyddyn yn un o uchafbwyntiau ei flwyddyn – gyda Morecambe & Wise yn cynnig ychydig o heulwen, wrth gwrs.

 

Byddwn yn cofio Laurie am ei radlonrwydd a’i garedigrwydd, ei haelioni, ei allu i ysbrydoli, annog a chefnogi, ei barodrwydd i gynnig cyngor cadarn ac ystyrlon pan ofynnwyd iddo wneud hynny, ond yn bennaf oll am ei synnwyr digrifwch. Byddai’n cellwair yn frathog, roedd yn hoff iawn o eironi, a byddai’n gallu gweld ochr ddoniol y rhan fwyaf o bethau. Roedd yn ddiymhongar ac yn feirniadol o’i hun, er gwaethaf ei gyflawniadau sylweddol.

 

Un o hoff awduron Laurie oedd Dylan Thomas, ac ar ôl iddo gael diagnosis o gancr yn 2010, byddai’n aml yn ailadrodd ei benderfyniad i beidio ‘go gentle into that good night’. Brwydrodd bob cam o’r ffordd, ond, yn anffodus collodd y frwydr ar 8 Mehefin, wrth iddo fethu â chodi eto yn erbyn difodi’r fflam. Gadawodd, er hynny, waddol amhrisiadwy, ac mae’r byd yn lle llawer llai diddorol hebddo.

 

Y peth pwysicaf ym mywyd Laurie oedd ei deulu;  mae’n gadael ei wraig Birgitta, ei fab Eric, ei ferch-yng-nghyfraith Debbie, a’i wyresau Laura ac Emily.