Janet Lewis Jones (1950-2017)

Pan wnaethpwyd Janet Lewis Jones yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 2008, roedd hi’n Is-Lywydd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain. Dyma un o blith nifer o feysydd y gwnaeth Janet gyfraniad arbennig i fywyd cyhoeddus.

Astudiodd Janet y Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl a chafodd ei galw i’r bar ond dewisodd y Gwasanaeth Sifil (Y Swyddfa Gartref, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Swyddfa’r Cyfrin Gyngor).

Gwasanaethodd ar fyrddau nifer o elusennau gan gynnwys Barnardos, The Baring Foundation ac Ymddiriedolaeth Carnegie UK.

Gwasanaethodd hefyd ar fyrddau’r BBC, Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, Comisiwn y Gwasanaethau Post, yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol, Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Dyfrffyrdd Prydain ac am 10  mlynedd a mwy bu’n aelod o fwrdd S4C, gan gynnwys cyfnod fel Cadeirydd y bwrdd hwnnw.

Roedd hi’n ymgynghorydd i’r Esgobion yn Nhŷ’r Arglwyddi a gweithiodd yn agos â Rowan Williams pan oedd yn Archesgob Caergaint.

Symudodd yn ôl i Gymru ym 1986 pan ymunodd â’r tîm a oedd yn cydlynu’r gwaith o breifateiddio’r diwydiant dŵr. A 15 mlynedd yn ddiweddarach chwaraeodd Janet rôl ganolog wrth “ddad-breifateiddio” Dŵr Cymru.

Roedd Janet yn unigolyn nodedig, yn bolymath a wnaeth ac a gyflawnodd gymaint dros eraill, Cymraes hyfryd, neu yn ei geiriau hi, yn “hen goes”.


(*Credyd llun BBC)