Glyn Tegai Hughes (1923-2017)

Roedd Glyn Tegai yn academydd asgetig ac yn un o feirniaid llenyddol gorau Cymru a gyfunai wybodaeth ddofn am lenyddiaeth Gymraeg â diddordeb brwd yn llenyddiaeth yr Almaen a’r Swistir.

Fe’i ganed yng Nghaer yn 1932, yn fab i’r Parchedig John Hughes, gweinidog Wesleaidd, a bu Glyn Tegai yn gwasanaethu yn gapten am bedair blynedd ac yna’n uwch gapten dros dro gyda’r Ffiwsiliwyr Cymreig Brenhinol.

Ar ôl y rhyfel mynychodd Brifysgol, Corpus Christi, Caergrawnt, lle’r oedd yn Ysgolor Donaldson, enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn tripos ieithoedd modern ac yno y dyfarnwyd iddo’i ddoethuriaeth.

Yn ei gyfnod yn y Brifysgol dechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Safodd yn ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Gorllewin Dinbych deirgwaith rhwng 1950 a 1959, gan ddod yn ail agos bob tro.

Yn 1952 cafodd ei benodi’n ddarlithydd llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Basel, ac yna treuliodd un mlynedd ar ddeg ym Mhrifysgol Manceinion, yn gyntaf yn ddarlithydd mewn astudiaethau llenyddol cymharol ac yna’n diwtor yng Nghyfadran y Celfyddydau.

Yn 1964 cafodd ei benodi yn warden cyntaf Neuadd Gregynog, canolfan breswyl Prifysgol Cymru, lle’r aeth ati i aildrefnu’r llyfrgell, i ail-gynllunio ei 750 o aceri ac i adfywio Gwasg Gregynog, un o weisg preifat enwog y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd.

Bu hefyd yn cymryd rhan mewn materion cyhoeddus fel cadeirydd Undeb Cymru Fydd (1968-70) (trefniadaeth ryng-bleidiol a grewyd i ymgyrchu am Senedd i Gymru), bu’n aelod o Gyngor Celfyddyau Cymru, fe’i penodwyd yn Llywodraethwr Cenedlaethol BBC Cymru ac yn gadeirydd (1977-94), bu’n llywydd y Gymdeithas Llyfrgelloedd Preifat (1980-82), yn aelod o S4C, ac yn gadeirydd yr Ymddiriedaeth Darlledu Cymru (1988-96). Dyfarnwyd iddo gymrodoriaeth anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth yn 2000.


(*Credyd llun BBC)