Gill Rowlands (1940-2019)

Bu farw Gill Rowlands mewn hosbis ger ei chartref yn Hemingford Grey,  Swydd Gaergrawnt. A hithau’n Gillian Rees gynt, daeth i Aberystwyth o Ysgol Ramadeg Sirol y Merched, y Porth yn 1960, i astudio Saesneg a Llenyddiaeth Americanaidd. Bydd cyn-fyfyrwyr y cyfnod hwnnw’n ei chofio’n arbennig am ei chyfraniad at y Dadleuon. Wedi graddio yn 1963 cafodd swydd fel athrawes yn Ysgol Henleaze, Bryste, ond byr fu ei chyfnod yno. Priododd â  Glyn Rowlands ym mis Medi 1964,  a gadawodd y ddau am yr Unol Daleithiau ar eu hunion. Un o Lynrhedynog oedd Glyn, cyn-ddisgybl o Ysgol Ramadeg Sirol y Bechgyn, y Porth, ac roedd ganddo ddoethuriaeth mewn Cemeg o Aber. Roedd Glyn wedi llwyddo i gael cymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn Labordy Ames ym Mhrifysgol Daleithiol Iowa. Ymgartrefodd y ddau yn agos at gampws y Brifysgol a daliodd Gill ati â’i gwaith yn dysgu Saesneg, ond i fyfyrwyr Americanaidd y tro hwn, a hynny yn Ysgol Uwchradd Ames. Byddai’r cyfeillion a wnaeth y ddau yn ystod eu dwy flynedd yn Ames – yn union fel cyfeillion Aber gynt – yn gyfeillion oes, a llwyddasant i greu llu o atgofion ar daith hir o amgylch yr Unol Daleithiau cyn iddynt deithio’n ôl i’r Deyrnas Unedig.

Wedi iddynt ddychwelyd, aeth Glyn i weithio’n gyntaf gyda’r Comisiwn Ynni Atomig yn , Harwell, ac yna ym myd busnes, a bu Gill yn brysur gartref gyda’u mab a’u merch, ond wedi i’r plant ymgyfarwyddo â mynd i’r ysgol dychwelodd hithau at ei gyrfa fel athrawes. Cafodd ei phenodi i Goleg Rhanbarthol Huntingdon, lle bu’n darlithio i’r rhai oedd yn mynd i’r brifysgol, a bu yn y swydd honno hyd iddi ymddeol. Roedd hi wrth ei bodd â llenyddiaeth Saesneg, a throsglwyddodd yr angerdd hwnnw i lawer o’i myfyrwyr.

Gyda Glyn yn gyrru, a ffrindiau’n aml yn rhannu’r profiad â hwy, mwynhaodd Gill deithio hwnt ac yma ar y cyfandir. Er hynny, iddi hi, roedd mwy o bleser mewn ymweld â chymoedd y De, yn enwedig â’i chartref yn Nhreorci, ar yr hyn y byddai’n ei alw’n ‘hiraeth tour’. Roedd hi’n falch iawn o’i gwreiddiau Cymreig yn y Rhondda, a bu Aber yn annwyl iawn iddi hefyd trwy gydol ei hoes. Yn ystod y cyfnod pan fu Glyn yn aelod o Gyngor y Brifysgol, ac yna’n Is-lywydd ac yn Ddirprwy Ganghellor, roedd ganddynt fflat yn edrych dros yr harbwr, lle byddai croeso cynnes i ymwelwyr.

Roedd Gill yn weithgar o ran materion cymdeithasol a chymunedol yn Hemingford Grey. Bu’n aelod prysur o’r Housewives' Register (y National Women's Register bellach) am gyfnod hir, fe sefydlodd a chadeirio clwb darllen ffyniannus, ac roedd hi’n ychwanegu’n ddi-baid at ei llyfrgell sylweddol ei hun. Roedd hi wrth ei bodd yn garddio hefyd, ac roedd y planhigion a’r llwyni a flodeuai yn ei gardd â thro’r tymhorau yn brawf o’i gwybodaeth a’i sgiliau garddwriaethol. Mwynhâi goginio hefyd, yn enwedig i fwydo’i hwyrion, a hwythau’n gystal bwytawyr.

Gillian Eirlys Rowlands, 20 Hydref 1940-15 Ionawr 2019. Mae’n gadael gŵr, Glyn; mab, Jonathan; merch, Sarah; a saith o wyrion.