Gareth Edwards-Jones (1962-2011)

Yr Athro Gareth Edwards-Jones Ganwyd Gareth Edwards-Jones ym 1962 a chafodd ei fagu ar fferm yn Nyffryn Clwyd. Ar ôl sicrhau gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bioleg o Brifysgol Manceinion (1984) a PhD o Brifysgol Llundain (1988), fe’i penodwyd i swydd bio-economydd yng Ngholeg Amaethyddol yr Alban (SAC) yng Nghaeredin. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1999, daeth yn Bennaeth yr Adran Rheoli Adnoddau Gwledig yn SAC.

Penodwyd Gareth yn Athro Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Defnydd Tir yn yr Ysgol Gwyddorau Amaethyddol a Choedwigoedd (bellach Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth) ym 1998. Dros y tair blynedd ar ddeg nesaf bu’n arwain datblygiad amaethyddiaeth ym Mangor, gan sefydlu’r Ganolfan Rheoli Bryniau ac Ucheldir a sicrhau cyllid allanol sylweddol ar gyfer prosiectau cyfalaf, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn Henfaes, safle fferm iseldir yr Ysgol. Yn 2010 fe’i penodwyd yn Athro Waitrose Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS yn Aberystwyth, gan rannu ei amser rhwng y ddwy Brifysgol a datblygu’r cysylltiadau rhwng elfennau gwyddoniaeth a busnes cynhyrchu bwyd.

Roedd diddordebau ymchwil Gareth yn eang, gan gwmpasu pynciau’n ymwneud ag amaethyddiaeth o agronomeg cywarch a llin i leihau’r risg o E. coli mewn cymunedau gwledig. Roedd parch mawr ato fel arbenigwr ar effeithiau amgylcheddol cynhyrchu bwyd ac yn ddiweddar roedd wedi datblygu diddordeb yn her fyd-eang diogelwch bwyd. I gydnabod ei arbenigedd, roedd Gareth yn aelod o nifer o bwyllgorau a grwpiau ymgynghorol cenedlaethol pwysig, y mddangosodd sawl tro ar y teledu a’r radio, cyfrannodd yn rheolaidd i’r wasg, ac fel siaradwr carismataidd, derbyniai lawer mwy o wahoddiadau nag y galli ymdopi â nhw i siarad â grwpiau academaidd, diwydiannol a chymunedol.

Er gwaethaf ei ymchwil ac ymrwymiadau eraill, roedd Gareth yn parhau i fod yn athro gweithgar ac uchel ei barch, yn ysbrydoli’r myfyrwyr israddedig oedd yn mynychu ei ddarlithoedd yn ogystal â’r myfyrwyr PhD niferus oedd yn gweithio gydag ef ar ei brosiectau ymchwil. Fel cefnogwr brwd i dîm Manchester United, caiff ei gofio fel chwaraewr pump bob ochr angerddol, gyda’i agwedd gystadleuol at y gêm, ei dalent rhyfeddol wrth sgorio goliau a’i farn wythnosol ar ddetholiadau’r tîm.

Ddiwedd 2010 cafodd Gareth ddiagnosis o ganser a bu farw’n rhy fuan o lawer ar ôl hynny, ar 14 Awst 2011. Mae’n gadael gwraig, Emma, a phlant, Gethin ac Eleanor. Bydd ei gydweithwyr yn gweld ei eisiau’n fawr, ond byddant yn cofio ei egni, ei frwdfrydedd a’i gyflawniadau mewn gyrfa a fu, gwaetha’r modd, yn fyrrach o lawer nag y dylai fod.

 

Christine M Cahalan

David Wright