Francis Norry Hogg OBE ALA FLA MA (1927-2022)

Francis Norry Hogg, OBE, ALA, FLA, MA oedd Prifathro cyntaf Coleg Llyfrgellwyr Cymru, y Prifathro a sefydlodd y Coleg.  

Ganwyd Frank ym Manceinion ym mis Hydref 1927, lle y cafodd ei fagu. Wedi iddo wasanaethau yn y Llynges fel Prif Forwr Codio  bu’n gweithio yn Llyfrgell Ganolog Manceinion, ac yna yn llyfrgelloedd cyhoeddus Northallerton, Wakefield a Hull, cyn dychwelyd i Ysgol Llyfrgellyddiaeth Manceinion.

Ym mis Chwefror 1964, fe’i penodwyd yn Brifathro Coleg Llyfrgellwyr Cymru. Y cynllun gwreiddiol oedd mai coleg bach fyddai hwn, ar gyfer hyd at 30 o fyfyrwyr y flwyddyn a thri aelod o staff amser llawn. Ond, yn ei gyfweliad, dywedodd Frank yn bendant ei fod yn rhagweld coleg a fyddai'n apelio at ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o'r byd. Cofrestrwyd y 12 myfyriwr ôl-raddedig cyntaf ym mis Hydref 1964. 

Erbyn 1968, o dan arweiniad gweledigaethol Frank, roedd y Coleg wedi datblygu’n ysgol lyfrgellyddiaeth fwyaf y Deyrnas Unedig. Roedd ganddi dros 400 o fyfyrwyr a 40 o staff addysgu academaidd amser llawn, nifer fawr o staff cynorthwyol, a mwy o fyfyrwyr rhyngwladol na'r holl ysgolion llyfrgellyddiaeth eraill ym Mhrydain gyda’i gilydd.   

Yn ystod 1969/70 bu Frank yn Athro Gwadd rhyngwladol yn Ysgol Graddedigion Llyfrgellyddiaeth a’r Gwyddorau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, yr Unol Daleithiau, ac yno bu’n trafod syniadau am y posibilrwydd o gynnal Ysgol Haf Ryngwladol i Raddedigion. Cynhaliwyd ysgol o'r fath yn flynyddol yn y Coleg a byddai dros 1,000 o fyfyrwyr o 70 o wledydd yn dod iddi.  

Chwaraeodd Frank ran allweddol yng nghynllun campws y Coleg yn Llanbadarn, ac yn arbennig y "llyfrgell llyfrgellyddiaeth" a agorodd ym 1971. Roedd y llyfrgell hon yn enwog yn rhyngwladol oherwydd cwmpas ac ehangder ei chasgliad, ac am ddenu ysgolheigion i ymweld o bob cwr o'r byd. Erbyn 1972 Coleg Llyfrgellwyr Cymru oedd yr ysgol llyfrgellyddiaeth fwyaf yn Ewrop. Byddai myfyrwyr yn mynd ar deithiau astudio i lyfrgelloedd ym Mhrydain ac Ewrop ac roedd staff academaidd yn cael eu secondio'n aml i weithio dramor. Yn aml iawn hefyd, roedd Frank yn gwneud gwaith ymgynghorol i sefydliadau tramor yn ogystal â bod yn Athro Ymweld yng Nghanada, Jamaica, Corea, Indonesia, Periw, Gwlad Pwyl, Tansanïa, a Thwrci. Daeth y Coleg, ac Aberystwyth yn sgil hynny, yn lleoliad pwysig i addysg llyfrgellyddiaeth ledled y byd.  

Yn ogystal â hyn, cafodd y Coleg gryn effaith ar lyfrgellyddiaeth Gymraeg gan fod staff yr Adran Astudiaethau Cymraeg yn darparu pynciau craidd trwy gyfrwng yr iaith. Mae llyfrgellwyr a addysgwyd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, academaidd a chenedlaethol yng Nghymru, a gweddill y byd ers bron i 60 mlynedd.  

Ym 1977 gwnaed Frank yn Llywydd Cymdeithas Llyfrgelloedd Ysgolion y DU, swydd a ddaliodd tan iddo ymddeol yn 1989 pan ddaeth y Coleg yn rhan o'r Brifysgol.  

Ar ôl ymddeol, parhaodd Frank â'i waith ymgynghori yn ogystal â phob math o waith gwirfoddol yn Aberystwyth - gyda'r Fforwm 50+, gwasanaethau llyfrgell i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg. Bu hefyd yn wirfoddolwr mewn prosiect ymchwil meddygol yn ymwneud â llawdriniaeth agored ar y galon. Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo gan y Brifysgol yn 2019.  

Priododd Frank ei wraig, Pat yn 1954, a chawsant dri mab. Bu farw Pat yn 2000 a bu farw un o'i feibion yn 2022. Roedd Frank yn byw yn Llanbadarn tan ychydig wythnosau cyn iddo farw mewn cartref nyrsio yn Norfolk, a oedd yn agos at ei deulu yno.

Mrs Lucy Tedd, Darlithydd Emeritws, Adran Astudiaethau Gwybodaeth