Elystan Morgan(1932 - 2021)

Ym marw Elystan Morgan collodd Cymru un o’i gwleidyddion mwyaf blaenllaw gynt, barnwr doeth, un o’i chynrychiolwyr taeraf yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac areithiwr llwyfan gyda’r coethaf a mwyaf diwylliedig a fagodd ei genhedlaeth. Collodd Prifysgol Aberystwyth un o’i chyn-fyfyriwr ffyddlonaf a’i gwasanaethodd mewn amryw ffyrdd (yn ei dro bu’n Gadeirydd Cymdeithas y Cynfyfyrwyr): gwasanaethodd hi’n flaenaf oll fel Llywydd ei Llys a Chadeirydd ei Chyngor am ddeng mlynedd rhwng 1997 a 2007. Fel Llywydd yr oedd yn anerchwr caboledig a swynai gynulleidfa’r Neuadd Fawr ym mhob seremoni raddio, ac fel Cadeirydd ar bwyllgor gallai flingo gwybedyn gyda’i siarprwydd. Yn y ddwy swydd bu’n gefn mawr i’r ddau Is-Ganghellor, Derec Llwyd Morgan a Noel Lloyd, a fu odano, ac yn warchodwr cadarn i safonau a dyheadau’r Brifysgol. Bron na ellir dweud ei fod yn bersonoliad o Aberystwythiaeth.

Am rai blynyddoedd yn ei ieuenctid a’i ganol oed ifanc Elystan Morgan oedd un o wleidyddion amlycaf Plaid Cymru. Pan ymunodd â’r Blaid Lafur yn 1965, achosodd rincian dannedd a diflastod enbyd ymysg y cenedlaetholwyr, oherwydd gwelid ef gan lawer fel olynydd naturiol Gwynfor Evans. Ym Mawrth 1966 etholwyd ef yn AS Sir Aberteifi, y Sosialydd cyntaf i ddal y sedd. Yn 1968 cafodd ei benodi’n Is-Ysgrifennydd y Swyddfa Gartref yn Llywodraeth Harold Wilson. Ar ôl i’r Ceidwadwyr ennill etholiad cyffredinol 1970, bu’n llefarydd ar Faterion Cartref i’r Wrthblaid ar y fainc flaen am ddwy flynedd, ac am ddwy flynedd arall yn llefarydd ar Faterion Cymreig. Yn 1974 adenillodd y Rhyddfrydwyr Sir Aberteifi. Yna safodd Elystan Morgan fel ymgeisydd i olynu Cledwyn Hughes (un arall o gynfyfyrwyr a chyn-Lywyddion Aberystwyth) ar Ynys Môn yn 1979. Collodd eto, ac ni cheisiodd sedd arall.

Un o fyfyrwyr Adran y Gyfraith Coleg Aberystwyth ydoedd. Yn ei Atgofion Oes (2012) disgrifiodd yr adran yr ymunodd â hi fel ‘un o’r ysgolion cyfraith mwyaf disglair ... ym Mhrydain yn ei dydd’, ac ymfalchiai fod pedwar aelod o’i deulu wedi’u haddysgu ynddi. Ar ôl cyfnod fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam, yn 1971 ymunodd â Gray’r Inn fel bargyfreithiwr. Rhoddodd ei waith wrth y bar iddo’r profiad a’i galluogodd, o 1981 ymlaen, ac yntau bellach yn aelod o Dy’r Arglwyddi, i gynorthwyo’r Arglwydd Elwyn-Jones, un arall o gynfyfyrwyr Aberystwyth, i lefaru ar Faterion Cyfreithiol yno. Yn 1987 dyrchafwyd ef yn Farnwr Cylch, swydd y bu ynddi tan 2003.

Yr oedd yn dda iddo gael yr uchel swyddi hyn, oherwydd drwy’r chwedegau hwyr ac ymlaen i’r saithdegau, dioddefodd gryn dipyn o feirniadaeth ac yn wir beth gasineb gan rai a farnai iddo droi’i gefn ar genedlaetholdeb – beirniadaeth a chasineb a fagodd ynddo ddiymhongarwch gwyliadwrus. Pan ofynodd D. Ll. M. iddo fod yn Llywydd y Brifysgol, ei ymateb cyntaf oedd, “Dydw-i’n ddim ond tipyn o farnwr, wyddoch, a bargyfreithiwr digon aflwyddiannus.”

Na, na. Petai Wilson wedi ennill etholiad cyffredinol 1970 dichon y buasai Elystan Morgan yn y Swyddfa Gymreig. Ymhen rhai blynyddoedd, pan oedd eisiau dyn dewr o argyhoeddiad anghyffredin i arwain yr Ymgyrch am Senedd i Gymru, pwy a gafwyd? Ie, Elystan Morgan. Fe’i harweiniodd er bod nifer mawr o’i gyd-Lafurwyr Cymreig yn ffyrnig yn erbyn y Senedd, a chan hynny’n ffyrnig yn ei erbyn ef. Er i’r ymgyrch gael ei cholli, y mae lle i gredu mai’r golled honno a arweiniodd yn rhannol at fuddugoliaeth  refferendwm 1997, buddugoliaeth a galonogodd Elystan yn arw.

Ei gefn a’i gysur drwy’i yrfa oedd ei wraig Alwen a briododd yn 1959 (bu hi farw yn 2006), a’i blant Eleri ac Owain a’u plant hwythau. Ei gynhaliaeth ysbrydol oedd ei grefydd: bu’n flaenor yng Nghapel y Garn, Bow Street, lle’i maged, er 1971. Yr oedd un peth arall hefyd yn gynhaliaeth iddo, sef llenyddiaeth. Yr oedd o deulu diwylliedig – enillasai ei dad, Dewi Morgan, y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1925 – ac o’i fachgendod darllenai’n awchus a chofus farddoniaeth Gymraeg a Saesneg, a llyfrau ar wleidyddiaeth a diwinyddiaeth a hanes. Gallai adrodd cerddi wrth y llath, ac yr oedd ganddo ddigon o storais am ei fachgendod a’i lencyndod i ddifyrru unrhyw gyfeillach. Y meddwl coeth â’r tafod arian, nid yw mwy.

Yr Athro Derec Llwyd Morgan,
Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth 1994 – 2004