Elena Baione (1979-2014)

Ganwyd Elena Baione yn Ne Cymru ym 1979. Yn hanner Cymraes a hanner Eidales, treuliodd bum mlynedd gyntaf ei bywyd yn yr Eidal. Fe'i magwyd ar aelwyd gariadus a chreadigol, ac roedd hi'n amlwg o oedran ifanc fod gan Elena ddoniau celf. Roedd hi'n fyfyrwraig ddisglair yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Astudiodd Gelf yn Chweched Dosbarth y Barri, gan greu portreadau a darluniau bywyd llonydd - gyda llawer ohonynt wedi'u hysbrydoli gan ramantiaeth a hanes diwylliant yr Eidal.

Parhaodd Elena i feithrin ei doniau, gan astudio Celf ac Eidaleg yn Aberystwyth rhwng 1997 a 2001. Treuliodd semester dramor hefyd, yn Padova, yr Eidal, yn ystod ei hail flwyddyn. Serch hynny, mewn dim o dro roedd hi wedi datblygu cysylltiad cryf â thref glan môr Aberystwyth. Roedd ei mam, Jill Roberts, hefyd wedi astudio yn Aber ddiwedd y chwedegau. Flynyddoedd ar ôl graddio, ar ôl ymweld ag Aberystwyth am y dydd, ysgrifennodd Elena mewn dyddiadur, "Rwy'n colli Aberystwyth gymaint. Fe hoffwn i fod yno unwaith eto.” Treuliodd Elena ei hamser yn Aber yn prynu cyflenwadau celf yn Inkwell's, yn gwneud paneidiau te a choffi di-ri ac yn chwerthin yn ddiddiwedd gyda'i ffrindiau. Roedd y rhai a oedd yn ei hadnabod yn ei disgrifio fel menyw ifanc hynod o dawel, a oedd bob amser yn amau ei doniau artistig, heb llawn wybod mor ddawnus ydoedd.

Symudodd Elena yn ôl i'r Barri ar ôl iddi raddio. Cyfarfu ag Ossie Fahiya yn fuan wedi hynny, a ganwyd eu merch Erin yn 2002, yna'r meibion Joseph (g.2008) a Lucas (g.2011). Roedd bod yn fam fel petai’n dod mor naturiol i Elena. Roedd hi'n dosturiol, yn sensitif ac yn addfwyn - wastad yno gyda'i breichiau’n agored. Bu'n gweithio i ganolfan waith am ychydig, a bu hefyd yn helpu yn ysgol gynradd ei phlant. Roedd hi'n angerddol am y Beatles, cariad a basiodd ymlaen i'w phlant, sy'n gallu cofio canu eu caneuon gyda'i gilydd ar y ffordd i'r ysgol yn y bore. Parhaodd Elena i feithrin ei chreadigrwydd, boed yn braslunio yn ei hamser hamdden neu’n helpu ei phlant gyda’u prosiectau celf.

Collodd ei mam, Jill, i ganser y fron yn 2009 a, ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Elena ddiagnosis o'r un clefyd. Parhaodd yn unigolyn hynod o ddygn ac anhunanol tan ei marwolaeth yn 2014. Roedd Elena wastad yno i'r rhai yr oedd hi'n eu caru, hyd yn oed pan oedd hi'n sâl iawn. Roedd hi'n enaid cywrain, artistig a thyner, ond yn cydbwyso hynny â meddylfryd hynod o gryf a ffraeth. Mae ei habsenoldeb i’w deimlo’n ddwys, ond mae'r cariad a oedd yn treiddio ohoni yn dal i gael ei deimlo gan ei theulu.

Dechreuodd Erin yn Aberystwyth yn 2020, gan ddilyn ôl troed ei mam a'i nain.

Erin Fahiya (Merch)