David Luke Allen (1985-2022)

Gyda thristwch mawr y cyhoeddodd teulu David “Dave” Luke Allen ei farwolaeth ar ôl salwch byr, ar Ragfyr 25, 2022.

Bydd Dave yn cael ei gofio'n gariadus gan ei wraig, Kat, y cyfarfu ag ef yn Aberystwyth, ei fab, Jake, a'i ferch, Rosie, a disgwylir eu trydydd plentyn ym mis Mawrth 2023. Bu farw yn Ysbyty New Cross, Wolverhampton, wedi'i amgylchynu gan ei deulu annwyl.

“Brummie Dave” oedd e i lawer yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, a chymrodd rôl golygydd papur newydd myfyrwyr y Brifysgol, The Courier. Roedd yn falch iawn o’r gwaith a wnaeth, a helpodd hynny i siapio ei fywyd proffesiynol ymhellach. Nid yw’n or-ddweud i’r rôl a gymerodd ei lywio tuag at ei yrfa fel Rheolwr Gwasanaethau Digidol a Chreadigol ym Mhrifysgol Wolverhampton, wedi cyfnod ym maes Digwyddiadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Dinas Birmingham.

O’r holl bethau gwych y gallai rhywun ei ddweud am yr hyn a gyflawnodd yn broffesiynol, nid oes dim yn cymharu â'r hyn a gyflawnodd Dave yn ei fywyd personol. Creodd ef a’i wraig Kat deulu hardd gyda’i gilydd, un sy’n dal i dyfu, ac a fydd yn cynnal yr atgofion amdano yn ei absenoldeb.

Llenwodd Dave ei fywyd, ac roedd wrth ei fodd yn ei fyw. Bydd y cariad hwnnw'n parhau ymhell ar ôl ei farwolaeth. Hyd yn oed yn ystod cyfnod hir o afiechyd yn ei ugeiniau hwyr, a ddaeth ag ef hyd yn oed yn agosach at ei fam, a roddodd aren iddo, ni roddodd Dave y gorau i fyw. Roedd ei ddiddordebau a'i wybodaeth yn eang. Roedd yn gefnogwr pêl-droed mawr iawn ac yn cefnogi CPD Aston Villa. Yr oedd hefyd yn hoff o'r celfyddydau, diwylliant; yn ddarllenwr brwd, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y sinema, gemau cyfrifiadurol a cherddoriaeth. Fe  rannomni lawer noson ar y llawr dawnsio, wel, ‘moshpit’, os ydym yn bod yn onest.

Dylech wybod ei fod yn gynnes, yn ffraeth, ac yn drawiadol o wybodus. Yr oedd hefyd yn annhraethol garedig; mor garedig nes iddo wneud i'r gweddill ohonom edrych yn wael. Pan fyddai’n siarad â chi, nid gwrando yn unig a wnaethai - roedd ganddo wir ddiddordeb. Hwn oedd ei arch-bwer, ac yr oedd yn heintus. Trosglwyddwyd ei gwmpawd moesol iddo gan ei rieni ffyddlon, Mark a Margaret. Yn yr wythnosau ers ei farwolaeth, rydw i wedi clywed fy hun yn gofyn, “Beth fyddai Dave yn ei wneud?” ar fwy nag un achlysur. Byddaf yn gofyn hyn i mi fy hun am weddill fy oes. Mae'n un o'r rhoddion niferus a roddodd i mi.

Cynhaliwyd angladd Dave ddydd Iau, Chwefror 9fed, 2023 yn Amlosgfa Bushberry, Underhill Lane, Wolverhampton, a chasglwyd rhoddion tuag at Kidney Research UK.

Dan John Witherall, (Llenyddiaeth Saesneg, 2006)