Andrew Breen (1964-2011)

Dr Andrew Breen Daeth Andy i Aberystwyth am y tro cyntaf yn 1982 i astudio ar gyfer gradd mewn Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod.  Roedd yn wahanol i’r mwyafrif o fyfyrwyr gyda’i wallt ‘Kajagoogoo mullet’ a’i wyneb lluniaidd.  Fel llawer un arall, syrthiodd mewn cariad ag Aberystwyth, gan fwynhau anffurfioldeb rhwydd y dref.

Ar ôl iddo gwblhau ei radd BSc, cafodd gyfle i aros yn Aberystwyth i astudio Ffiseg Ionosfferig ar gyfer gradd PhD.  Y PhD yma oedd cychwyn ei bartneriaeth broffesiynol gyda’r diweddar Athro Phil Williams, y cafodd ynddo un oedd yn cydweddu’n berffaith â’i ddeall, a’i ynni, a’i frwdfrydedd a’i odrwydd hynaws. 

Wedi iddo gwblhau ei PhD cychwynnodd ar ei yrfa ôl-ddoethurol yn Southampton yn 1990.  Dychwelodd i Aberystwyth yn 1992 a gweithio fel ôl-ddoethur am bum mlynedd cyn treulio blwyddyn yn Sefydliad clodfawr Max-Planck ar gyfer Eronomeg.

Ar ôl hyn, aeth tynfa Aberystwyth yn ormod iddo a dychwelodd, ar gyfer Cymrodoriaeth Ymchwil Uwch PPARC ac yna, yn 2001, ddarlithyddiaeth a ddilynwyd yn 2006 gan ddyrchafiad i fod yn Uwch Ddarlithydd. 

Roedd Andy yn mwynhau addysgu, ac yn cael pleser gwirioneddol wrth weld ei fyfyrwyr yn datblygu ac yn ffynnu.  Roedd wrth ei fodd gyda thechnoleg, yn amrywio o drenau stêm i’r taclau electronig diweddaraf, hoffai chwarae â’r rhain a gweld sut yn union roeddynt yn gweithio a sut y gallai gael y gorau allan ohonynt. 

Pan achosodd ei waeledd i’w lais wanychu, yn hytrach na rhoi’r gorau i addysgu, trodd Andy at dechnoleg, gan arloesi’r deunydd yn Aberystwyth o chwyddo llais ynghyd â recordio ei ddarlithoedd ar fideo a MP3.  Cydnabuwyd y gwaith hwn yn 2006 pan ddyfarnwyd iddo Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu.

Roedd yn ŵr caredig ac ystyriol o natur hydrin, ond ni fyddai neb yn camgymryd y natur hon am agwedd laissez-faire.  Roedd gan Andy syniadau cadarn iawn am degwch a gwedduster a byddai’n dod i fan pan fyddai ei deimladau wedi eu tramgwyddo, lle clywid “Na!” swta a’i lygaid yn rholio yn ei ben.

Byddai’n bytheirio yn erbyn anghyfiawnder, gan ddefnyddio ei ffraethineb craff i wawdio a datgelu’r rhai a ddefnyddiai eu safleoedd pwerus neu ffwndamentaliaeth grefyddol i orthrymu eraill.  Anffyddiwr oedd Andy, roedd yn canfod digon o ryfeddodau a dirgelion yn y bydysawd heb weld unrhyw angen i alw am fod goruwchnaturiol i’w hegluro.

Yn bennaf oll, roedd Andy yn gyfaill da i lawer.  Roedd yn un hynod o dda i siarad gydag ef, yn diddori mewn unrhyw beth o ddiddordeb.  Arferai alw heibio fy swyddfa yn aml am sgwrs, weithiau am wyddoniaeth, weithiau am fyfyrwyr neu glecs adrannol, weithiau am ryw em roedd wedi dod ar ei thraws ar y rhyngrwyd ac yr oedd am ei rhannu, ac weithiau dim ond am ei fod angen hoe ar ôl cerdded i lawr y coridor. 

Ychydig fisoedd yn ôl, fe gwrddon ni wrth gerdded ar draws y maes parcio a diolchodd i mi am wrando arno ac ymddiheurodd am fynd â chymaint o’m hamser.  Andy bach, roedd sgwrsio gyda thi yn fwy o hwyl bob amser nag unrhyw waith y dylwn i fod yn ei wneud, fuost ti erioed yn faich arnaf.

Bu farw Dr Andrew Breen ar 9 Rhagfyr, yn 47 oed.

David Langstaff