Swyddog Cymorth y Gymraeg

Enw:

       
Gwenan Davies

Cartref:

Mydroilyn

Teitl Swydd:

Swyddog Cymorth y Gymraeg

Sefydliad:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Disgrifiad:

Er taw hanner awr o gartref y mae Aberystwyth, ar ôl cwrdd â’r darlithwyr hynod garedig ar ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Aberystwyth roeddwn yn benderfynol taw Aberystwyth oedd y lle i mi (er fy mod wedi treulio blynyddoedd yn gwbl sicr taw i’r ddinas fawr yng Nghaerdydd y byddwn yn mynd i astudio!). Wrth ddilyn y cwrs, gwnes i fwynhau’r modiwl Llên Gwerin dan arweiniad Mihangel Morgan; bydd darlithoedd yn ei gwmni ef yn aros yn y cof am amser hir. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn astudio’r Gymraeg yn y Gweithle: modiwl hynod ddefnyddiol, yn enwedig gan fy mod yn gynyddol ymwybodol o’r byd gwaith fyddai’n aros amdana’ i ar ddiwedd fy ngradd.

Ychydig fisoedd cyn i mi orffen fy nhrydedd flwyddyn yn y Brifysgol, bûm yn ffodus iawn i gael swydd fel Myfyriwr Graddedig Dan Hyfforddiant, swydd oedd yn cael ei rhannu rhwng Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cynllun blwyddyn oedd hwn, a chefais bob math o brofiadau, o drefnu digwyddiadau, cynhyrchu fideo a chymryd cofnodion i reoli prosiectau amrywiol.

Wrth i mi ddod i ddiwedd y cyfnod blwyddyn, roedd hi’n bryd chwilio am swydd arall.
Wrth ystyried fy ngyrfa ar ôl derbyn gradd Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu, roedd hi’n hawdd iawn ystyried gyrfa ym myd y cyfryngau, fel cyfieithydd, neu fel athrawes efallai. Ond ar ôl derbyn profiad gwerth chweil gyda Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, roedd gyrfa ym myd cynllunio a hybu’r Gymraeg yn apelio’n fawr. Drwy lwc, cafodd fy swydd ddelfrydol fel Swyddog Cymorth y Gymraeg ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Nid oeddwn wedi ystyried o’r blaen bod y fath yrfa ar gael o fewn y GIG yng Nghymru.

Diwrnod arferol:

Rwy’n gadael y tŷ tua 8 o’r gloch er mwyn cyrraedd y gwaith cyn 9. Dwi’n teithio bron 30 milltir i gyrraedd y swyddfa! Er bod rhai pobl yn synnu ’mod i’n teithio gymaint, dwi’n mwynhau’r daith yn y bore er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sydd o ’mlaen bob dydd cyn cyrraedd y gwaith.

Yn wythnosol ar fore Llun, dwi’n gyfrifol am wneud cyflwyniad mewn sesiwn gynefino i staff newydd y Bwrdd Iechyd. Mae lleoliad y sesiwn yn amrywio dros y tair sir, ysbyty Llwynhelyg, Glangwili neu Bronglais. Fel arfer, mae hyd at 30 o staff newydd yn mynychu’n wythnosol. Rwy’n dangos fideo profiad defnyddwyr er mwyn pwysleisio’r angen i werthfawrogi dewis iaith y claf, yn enwedig wrth drin plant ifanc neu’r henoed sydd efallai’n dioddef o ddementia, ac wedi colli’r gallu i gyfathrebu drwy’r Saesneg. Mae gweld y bobl yn sylweddoli pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn rhoi boddhad mawr i mi, ac mae’n uchafbwynt yr wythnos i mi.

Fy hoff beth!: 

Dyletswydd arall yn rhinwedd fy swydd yw creu nwyddau i hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd. Y llynedd es ati i greu poster Rho Gynnig Arni er mwyn annog staff i ddysgu ychydig o eiriau Cymraeg. Bu’r poster yn llwyddiannus yng Ngwobrau Gorau Iechyd y Bwrdd Iechyd ychydig fisoedd yn ôl. Eleni, bûm yn gweithio ar Gardiau Fflach sy’n cynnwys cyfarwyddiadau i staff gynnal sgwrs syml â chlaf, magnetau er mwyn tynnu sylw at y cleifion Cymraeg eu hiaith ar y wardiau a baneri sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut yn union i ateb y ffôn yn ddwyieithog. Manion bethau efallai, ond dwi’n gobeithio’n fawr y gall hyn fynd i’r afael â gwella’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer ein cleifion yn ogystal â chydymffurfio â’r safonau iaith newydd ymhen ychydig fisoedd. 

Cymwysterau: 

BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu

Sgiliau Allweddol:

Cyfathrebu yw un o’r sgiliau mwyaf angenrheidiol ar gyfer y swydd hon yn fy marn i. Mae’r swydd yn gofyn am y gallu i siarad â phobl o bob math o wahanol gefndiroedd - gan fod yn gwrtais ond hefyd yn gadarn wrth geisio dwyn perswâd ar staff a chwmnïoedd allanol i wella’u darpariaeth Gymraeg. Mae gofyn hefyd am fod yn greadigol wrth ddylunio nwyddau newydd ar gyfer ein staff, ac mae’r gallu i ddefnyddio amryw o raglenni technegol o fantais hefyd. Yn amlwg, gan fod gofyn gwneud cyflwyniadau o flaen staff newydd neu aelodau’r Bwrdd, rwy’n ddiolchgar tu hwnt i fudiad y ffermwyr ifanc am feithrin fy sgiliau siarad cyhoeddus.