Dr Rhianedd Jewell

BA (Rhydychen), MSt (Rhydychen), DPhil (Rhydy

Dr Rhianedd Jewell

Darlithydd Uwch Cymraeg Proffesiynol

Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Dirprwy Bennaeth Ysgol

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Uwch Ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Rhianedd. Ar ôl cwblhau gradd BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Rhianedd ymlaen i gyflawni MSt a DPhil yno ym maes Eidaleg. Pwnc ei doethuriaeth oedd yr awdures Sardeg, Grazia Deledda, a chanolbwyntiodd yn arbennig ar iaith, adroddiant a hunaniaeth yng ngwaith yr awdures hon. Gweithiodd Rhianedd fel Lector Celtaidd Prifysgol Rhydychen cyn dechrau swydd ddarlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012. Ymunodd hi ag Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2013.

Dysgu

Module Coordinator
Tutor
Coordinator
Lecturer
Moderator
Assistant

Mae Rhianedd yn bennaf gyfrifol am fodiwlau'r cynllun Cymraeg Proffesiynol. Fel Tiwtor Ail Iaith yr Adran, mae Rhianedd hefyd yn cydlynu nifer o'r modiwlau ail iaith.

Ymchwil

Mae Rhianedd yn ymddiddori'n fawr ym maes astudiaethau cyfieithu, yn arbennig cyfieithiadau llenyddol i'r Gymraeg o ieithoedd Ewropeaidd. Mae hi hefyd yn ymchwilio i faes cyfieithu proffesiynol, llenyddiaeth menywod, a'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru a'r Eidal.

 

Gwobrau

Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis (2013)

Ysgoloriaeth Burgen (gwobrwywyd gan Academia Europaea) (2016)

Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a'r Dyniaethau (gwobrwywyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru) (2018)

Cyhoeddiadau

Jewell, R, Huws, CF & Binks, H 2022, 'Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru'. in R Williams (ed.), Y Gymraeg a Gweithle'r Gymru Gyfoes . Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press.
Huws, CF, Jewell, RM & Binks, H 2022, 'A legislative theatre study of simultaneous interpretation in legal proceedings', International Journal of Speech, Language and the Law, vol. 29, no. 1, pp. 37-59. 10.1558/ijsll.20610
Huws, CF, Binks, H, Jewell, R & Schwede, L 2022, 'Gwrandawiadau o bell a theatr ddeddfu/Remote hearings and legislative theatre (in Welsh with simultaneous interpretation)'.
Huws, CF, Jewell, R & Binks, H 2022, 'Legislative theatre and remote hearings', Paper presented at Dyfodol achosion dwyieithog | The future of remote court hearings , Aberystwyth, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 21 Jul 2022 - 21 Jul 2022.
Jewell, R 2019, 'Crefft Cyfieithu Gwaith Gwyn Thomas: Dadansoddi Diwéddgan', Llên Cymru, vol. 42, no. 1, pp. 70-95. 10.16922/lc.42.5
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil