Dr Cathryn Charnell-White

BA (Cymru) PhD (Cymru)

Dr Cathryn Charnell-White

Darllenydd

Pennaeth Adran (Y Gymraeg)

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Pennaeth Adran (2013-); Cyfarwyddwr Ymchwil Adrannol (2014-21); Pencampwr Cydraddoldeb (2018-20) & Cyfaill Enfys Aber (2017-); Senedd y Brifysgol & Panel Sefydlog ar gyfer Disgyblu Myfyrwyr  (2019-)

Dysgu

Rwyf yn cyfrannu at fodiwlau iaith a llên i ddechreuwyr, ac i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf, ar draws holl gynlluniau israddedig ac ôlraddedig yr adran. Rwyf hefyd wedi datblygu modiwlau yn fy mhriod feysydd ymchwil sy’n cwmpasu llenyddiaeth fodern a chyfoes, ynghyd â diwylliant llenyddol y cyfnod modern cynnar (1500–1800):

  • Golwg ar Ferched mewn Llenyddiaeth cyn 1500.
  • Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth yng Nghymru cyn 1800.
  • Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru.
  • Testunau'r Enfys: Llunio Profiadau LHDT+ (dysgir ar y cyd â chyd-weithwyr TFTS).
  • Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800.

Ymchwil

Rwyf yn aelod o Goleg Arfarnu Cymheiriaid yr AHRC (2017–21) ac wedi gwneud gwaith arfarnu i sefydliadau allanol, gan gynnwys Gwerddon (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Gwasg Prifysgol Cymru, CrwsiblCymru a The Huntingdon Library Journal.

Mae fy ymchwil i lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth y cyfnod modern cynnar yn cwmpasu beirniadaeth lenyddol, ysgolheictod testunol, a chyfieithu llenyddol yn y meysydd canlynol. Mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd mewn ffyrdd annisgwyl a chyffrous:

  • Llenyddiaeth a diwylliant llenyddol menywod: Clasuron Cymraeg Honno; barddoniaeth gan fenywod mewn cyd-destun Cymreig a phan-Geltaidd.
  • Hunaniaeth mewn llenyddiaeth: rhywedd, hunaniaeth bersonol, hunaniaeth leol a chenedlaethol, a Phrydeindod mewn cyd-destun ‘pedair cenedl’.
  • Diwylliant llenyddol: rhwydweithiau ac egin sffêr gyhoeddus Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r tu hwnt.
  • Ecofeirniadaeth: llenyddiaeth y tywydd a meteoroleg hanesyddol.
  • Eschatoleg: marwolaeth mewn llenyddiaeth.

Mae fy nghyhoeddiadau ym maes llên menywod yn cynnwys y flodeugerdd gynhwysfawr gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenywod cyn 1800, Beirdd Ceridwen (2005) a golygiadau newydd o weithiau anghofiedig gan fenywod yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno, e.e. Pererinion & Storïau Hen Ferch (2008). Mae fy ngwaith ar y gweill yn cynnwys trosolwg o diwylliant llenyddol menywod Cymru’r cyfnod modern cynnar ar gyfer Palgrave Encyclopedia of Women’s Writing; ‘Beyond borders: women writing in Ireland, Scotland and Wales’ ar gyfer Women and Medieval Literary Culture from the Early Middle Ages to the Fifteenth Century (CUP, 2022); ynghyd â thestunau golygedig, cyfieithiadau, nodiadau esboniadol a thrafodaeth feirniadol ar gyfer blodeugerdd (CUP, 2021) a chyfrol feirniadol (CUP, 2022) a fydd yn cynrychioli gwaith a gyflawnwyd fel rhan o’r prosiect ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’ (2013–17) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Rwyf wedi ysgrifennu am hunaniaeth a diwylliant llenyddol yn Bardic Circles (2007), Welsh Poetry of the French Revolution (2012), ‘Networking the nation…’ (2013), ‘Perfformio’r genedl…’ (2017) a ‘Brawdgarwch cenedlgarol…’ (2020). Mae gennyf lond llaw o erthyglau, a nodir isod, ar lenyddiaeth y tywydd, ac rwyf wrthi’n cwblhau blodeugerdd bwrpasol i Gyhoeddiadau Barddas, sef Trysorfa’r Tywydd (2021).

Gwybodaeth Ychwanegol

Rwy'n aelod o'r cymdeithasau canlynol: Yr Academi Gymreig (Llenyddiaeth Cymru); Archif Menywod Cymru; ASLE-UKI (Association for the Study of Literature and Environment-UK); Barddas; BSECS (British Society for Eighteenth-Century Studies); Cymdeithas Astudiaethau'r Gymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd.

Rwy'n gwau ac yn canu'r ffidil yn fy amser hamdden, a bydd rhai ohonoch yn dod i fy adnabod yng ngherddorfa'r Brifysgol, Philomusica.

Dysgu

Module Coordinator
Lecturer
Coordinator
Moderator
Blackboard Dept Admin
Attendance Dept Admin

Rwyf yn cyfrannu at fodiwlau iaith a llên i ddechreuwyr, ac i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf, ar draws holl gynlluniau israddedig ac ôlraddedig yr adran: Sgiliau Astudio iaith a Llên; An Introduction to Welsh Literature; Trafod y Byd Cyfoes drwy’r Gymraeg; Ysgrifennu Graenus; Cymraeg y Gweithle Proffesiynol; Y Gymraeg yn y Gweithle; Bro a Bywyd; Traethawd Estynedig.

Rwyf hefyd wedi datblygu modiwlau yn fy mhriod feysydd ymchwil sy’n cwmpasu llenyddiaeth fodern a chyfoes, ynghyd â diwylliant llenyddol y cyfnod modern cynnar (1500–1800):

  • Golwg ar Ferched mewn Llenyddiaeth cyn 1500.
  • Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth yng Nghymru cyn 1800.
  • Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru.
  • Testunau Bob Lliw: Llunio Profiadau LHDT+ (dysgir ar y cyd â chyd-weithwyr TFTS).
  • Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800.

Ymchwil

Bûm yn aelod o Goleg Arfarnu Cymheiriaid yr AHRC (2017–21) ac rwyf wedi gwneud gwaith arfarnu i sefydliadau allanol, gan gynnwys Gwerddon (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Gwasg Prifysgol Cymru, CrwsiblCymru a The Huntingdon Library Journal.

Mae fy ymchwil i lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth y cyfnod modern cynnar yn cwmpasu beirniadaeth lenyddol, ysgolheictod testunol, a chyfieithu llenyddol yn y meysydd canlynol. Mae’r meysydd hyn yn aml yn gorgyffwrdd mewn ffyrdd annisgwyl a chyffrous:

  • Llenyddiaeth a diwylliant llenyddol menywod: Clasuron Cymraeg Honno; barddoniaeth gan fenywod mewn cyd-destun Cymreig a phan-Geltaidd.
  • Hunaniaeth mewn llenyddiaeth: rhywedd, hunaniaeth bersonol, hunaniaeth leol a chenedlaethol, a Phrydeindod mewn cyd-destun ‘pedair cenedl’.
  • Diwylliant llenyddol: rhwydweithiau ac egin sffêr gyhoeddus Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r tu hwnt.
  • Ecofeirniadaeth: llenyddiaeth y tywydd a meteoroleg hanesyddol.
  • Eschatoleg: marwolaeth mewn llenyddiaeth.

Mae fy nghyhoeddiadau ym maes llên menywod yn cynnwys y flodeugerdd gynhwysfawr gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenywod cyn 1800, Beirdd Ceridwen (2005) a golygiadau newydd o weithiau anghofiedig gan fenywod yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno, e.e. Pererinion & Storïau Hen Ferch (2008). Mae fy ngwaith ar y gweill yn cynnwys trosolwg o diwylliant llenyddol menywod Cymru’r cyfnod modern cynnar ar gyfer Palgrave Encyclopedia of Women’s Writing; ‘Beyond borders: women writing in Ireland, Scotland and Wales’ ar gyfer Women and Medieval Literary Culture from the Early Middle Ages to the Fifteenth Century (CUP, 2022); ynghyd â thestunau golygedig, cyfieithiadau, nodiadau esboniadol a thrafodaeth feirniadol ar gyfer blodeugerdd (CUP, 2021) a chyfrol feirniadol (CUP, 2022) a fydd yn cynrychioli gwaith a gyflawnwyd fel rhan o’r prosiect ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’ (2013–17) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Rwyf wedi ysgrifennu am hunaniaeth a diwylliant llenyddol yn Bardic Circles (2007), Welsh Poetry of the French Revolution (2012), ‘Networking the nation…’ (2013), ‘Perfformio’r genedl…’ (2017) a ‘Brawdgarwch cenedlgarol…’ (2020). Mae gennyf lond llaw o erthyglau, a nodir isod, ar lenyddiaeth y tywydd, ac rwyf wrthi’n cwblhau blodeugerdd bwrpasol i Gyhoeddiadau Barddas, sef Trysorfa’r Tywydd (2021).

Cyfrifoldebau

Llenyddiaeth Cymru, Cadeirydd (2021-); Cyfarwyddwr (2019-)

Arholwr Allanol, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd (2019-)

Cyngor Llyfrau Cymru, Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor (2015-21)

Honno Gwasg Menywod Cymru, Bwrdd Rheoli (2003-); Cyd-olygydd Cyfres Clasuron Cymraeg Honno (2008-)

Trysorydd Adran Diwylliant y 18-19g (Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru; 2002)

Rwy'n aelod o'r cymdeithasau canlynol: Archif Menywod Cymru; ASLE-UKI (Association for the Study of Literature and Environment-UK); Barddas; BSECS (British Society for Eighteenth-Century Studies); Cymdeithas Astudiaethau'r Gymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd.